Araith: Gyfeillion y Ddaear
Caerdydd
Mai 26 2016

Maen addas iawn ein bod wedi cynnal y cyfarfod pwysig hwn yn y Brifddinas, oherwydd ffaith nad syn hysbys i ryw lawer yw mair enw a roddir ar un or dulliau cynharaf o integreiddio ystyriaethau amgylcheddol i mewn o weithgareddaur Undeb Ewropeaidd oedd Proses Caerdydd. Cafodd hwn ei fabwysiadau ym mis Mehefin 1998 pan oedd y Deyrnas Gyfunol yn dal llywyddiaeth yr UE ac fe gynhaliwyd un or uwchgynhadleddau yma yng Nghaerdydd. Dyma rywbeth rwyf wedi sn amdano lawer gwaith ond sydd byth yn cael llawer o sylw!

Pan ddaw hi ir amgylchedd, mae cyfreithiaur UE ar DG wedi cael eu plethun agos. Mae gan yr UE ymrwymiad clir i "gadw, amddiffyn a gwella ansawdd yr amgylchedd; i gyfrannu tuag at amddiffyn iechyd dynol; ac i sicrhau defnydd gofalus a rhesymol o adnoaddau naturiol ".

Yn sicr, cafodd yr UE effaith gadarnhaol dros ben ar ein hamgylchedd drwy basio deddfwriaeth na fydai wedi digwydd fel arall. Allwn ni ddim bod yn sicr na fydden nin colli hynny i gyd pe bair DG yn pleidleisio i adael. O fy mhrofiad fel Aelod Seneddol Ewropeaidd dros y 17 mlynedd diwethaf gallaf ragweld y byddem yn colli llawer iawn or mesurau gwarchodol hyn a enillwyd wedi llawr o frwydro caled. Oherwydd bod rhaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth y DG yn eu gweld fel rhwystrau i fusnes ac elw. Efallai nid dros nos ond yn sicr dros gyfnod o amser.

Dylsem gofio hefyd bod Cymru wedi cyfrannu tuag at weddill yr UE hefyd. Ni oedd y cyntaf i ymgorffori ymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy yng nghyfansoddiad ein Cynulliad Cenedlaethol. Yn ychwanegol i hyn, fe wnaethon ni godi pris o 5c ar fagiau plastig ymhell cyn ir UE fabwysiadu mesurau tebyg. Felly maen berthynas dwy ffordd fel y dylai fod rhwng partneriaid.

Wrth gwrs, nid yw Cymrun bartner cyfartal, gan nad ywn aelod wladwriaeth annibynnol, ond mae yna lawer o le i ddatblygu ffordd mwy uniongyrchol o weithio rhwng Llywodraeth Cymru ar Comisiwn a dyna un or diwygiadau rwyn gobeithio bydd Llywodraeth Cymru ar Cynulliad yn eu derbyn.

Caiff glendid ein traethau, ansawdd ein aer, y modd y cawn wared ar wastraff a sylweddau peryglus, safonau bwyd, diwylliant ailgylchu, torri lawr ar y defnydd a wneir o blaladdwyr, a llawer mwy yn cael eu rheoleiddio gan yr UE. Fy neiseb innau i Senedd Ewrop an helpodd i gau Safle Tirlenwi Nantygwyddon yn y Rhondda oherwydd ei fod yn torrir Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff.

A finnaun aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd a Iechyd Cyhoeddus, bm yn gyfrifol am lunio, trafod a phenderfynu ar lawer or ddeddfwriaeth yma. Bun sefyllfa gyffredin i ni geisio darbwyllor DG i beidio dyfrhau neu hyd yn oed rwystro cyfreithiu newydd i amddiffyn iechyd ar amgylchedd. Felly rydym wedi dibynnu ar yr UE i wthior DG ymhellach.

Ac rwyf wedi gwneud hyn hefyd drwy weithio gyda nifer o sefydliadau eraill ar nifer o ymgyrchoedd. Enghraifft o hyn yw cyfreithiau cemegol REACH, i gael gwared ar y cemegolion mwyaf peryglus mewn cynyrch bob dyd yn raddol, ar gyfraith wnes i ei lywion llwyddianus ynglyn lleihaur cemgolion mewn offer trydanol a olygai na ellid ei ailgylchu. Yn fwyaf diweddar wrth gwrs mae TTIP. Byddai gadael yr UE ddim yn peri i hynny ddiflanu yn wir fe fyddem mewn sefyllfa gwanach iw wrthwynebu.

Ac wrth gwrs, mae diplomyddiaeth ynglyn r hinsawdd yn un or enghreiffitiau gorau o wledydd yr UE yn gweithio gydai gilydd er mwyn atgyfnerthu eu lleisiau mewn undod ar lwyfan byd-eang, a COP21 ym Mharis oedd yr enghraifft mwyaf diweddar. Defnyddiodd yr UE ei statws fel bloc uchelgeisiol o wledydd datblygiedig yn llwyddianus i fedru pontior gwrthdaro rhwng gwledydd sydd yn datblygu drwy recriwtio dros 100 o wledydd ir Glymblaid Uchelgais Mawr. Mae gan y DG llawer llai o ddylanwad ar ei phen ei hun.

Mae o fudd i Gymru i aros yn yr UE: yn amgylcheddol, yn gymdeithasol, yn ddiwyllianol ac yn economegol. Mae yna gymaint o botensial gan Gymru i amddiffyn a hyrwyddo ein hadnoddau naturiol amhrisiadwy ac i barhau i weithio gydan partneriaid am fwy o weithredu byd-eang effeithiol hefyd.

Felly, ein blaenoriaeth nawr yw i bleidleisio i aros o fewn yr UE ac i ddathlu cymaint o orchest rhyfeddol ydyw hi, ond nid dynar diwedd. Dymunwn hawlio Ewrop yn l dros ei phobl ar amgylchedd. Mae yna lawer y dymunwn ei newid ond allwch chi ddim gwneud hynny drwy felltithior tywyllwch. Gallwch gyflawni hynny drwy gynnau cannwyll.

Diwedd.

Llun: Jill Evans