• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Aelodau'r Urdd yn galw ar y byd o Frwsel
    Mai 4ydd 2010

    Bu 14 o bobl ifanc o Geredigion yn cyflwyno Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn Senedd Ewrop, a hynny ar wahoddiad yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o Blaid Cymru, Jill Evans.

    Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru yn draddodiad blynyddol sy'n dyddio yn ôl i 1922 pan wnaeth plant Cymru anfon eu neges ewyllys da i'r byd am y tro cyntaf. Dathlir Diwrnod Heddwch ac Ewyllys Da yn Nghymru yn swyddogol ar 18 Mai pan caiff y neges ei gyflwyno yng Nghymru.

    Llun: Jill Evans gyda Fforwm Ieuenctid Ceredigion Urdd Gobaith Cymru yn 
Senedd Ewrop ym Mrwsel, 4 Mai 2010.

    Jill Evans gyda Fforwm Ieuenctid Ceredigion Urdd Gobaith Cymru yn Senedd Ewrop ym Mrwsel, 4 Mai 2010.

    Mae'r grwp yn rhan o Fforwm Ieuenctid Urdd Gobaith Cymru Ceredigion, ac yn cynnwys disgyblion o Ysgolion Penweddig, Penglais, Tregaron, Llanbed a Dyffryn Teifi. Yn teithio gyda nhw bu Mrs Elin Williams athrawes yn Ysgol Dyffryn Teifi wnaeth helpu llunio'r neges sydd eleni yn canolbwyntio ar beryglon anwybyddu newid hinsawdd.

    Gellir darllen y neges arlein yma.

    Dywed Jill Evans ASE:

    "Rwy'n falch bod aelodau'r Urdd wedi dewis Senedd Ewrop fel man i gyflwyno'r neges heddwch ac ewyllys da. Mae eu neges yn rybudd grymus o beryg anwybyddu newid hinsawdd, ac rwyf am dalu teyrnged i'r bobl ifanc am eu gwaith.

    "Cawson ni gyfle i gael sesiwn holi ac ateb, a chafodd y grwp gyfle i weld o gwmpas y Senedd a chael gwylio sesiwn o'r Pwyllgor Amgylchedd.

    "Fel maen nhw'n dweud yn eu neges mae'r cloc yn tician, ac amser yn rhedeg allan os ydym ni am atal effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Bydd neges bwerus y bobl ifanc yma yn atgoffa gwleidyddion Ewropeaidd ba mor bwysig yw gweithredu ar frys."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans