Mae Jill Evans ASE, wedi croesawu’r penderfyniad gan Lys Cyfiawnder Ewrop sydd yn cadarnhau cyfreithlondeb cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i roi cap ar brisiau crwydro gyda ffonau teithiol. Golyga’r gyfraith bod galwadau ffôn a negeseuon testun 70% yn rhatach ar gyfer pobl sydd yn defnyddio’u ffonau dramor.
Cyfeiriwyd yr achos i Lys Lwcsembwrg gan yr Uchel Lys yn Llundain yn dilyn achos yn 2007 a ddygwyd gan gwmnïau ffonau teithiol.
Cefnogwyd y ddeddf gan Ms Evans oherwydd bod gweithredwyr yn ecsploetio cwsmeriaid ac yn gosod prisiau uchel iawn.
Wrth groesawu’r penderfyniad, dywedodd Ms Evans:
"Mae hwn yn fuddugoliaeth i ddefnyddwyr yng Nghymru ac yn benderfyniad da iawn gan Lys Cyfiawnder Ewrop. Gall teithwyr a phobl sy’n mynd ar eu gwyliau o Gymru fod yn sicr nawr bydd eu ffôn teithiol yn aros yn rhatach dramor.
"Roedd rhai cwmnïau ffôn teithiol yn codi prisiau gwarthus o uchel am ddefnyddio ffonau teithiol dramor. Pan fethon nhw a chyflwyno prisio teg yn wirfoddol, roed yn rhaid i gyfreithiau dilyn.
”O ganlyniad, disgynnodd y gost o ddefnyddio ffonau teithiol dramor gan hyd at 70% ar gyfartaledd o’i gymharu â phrisiau 2005. Disgynnodd y gost o ddanfon neges destun gan 60%. ‘r mis nesaf, bydd y gost o ddefnyddio ffôn teithiol mewn gwlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei gapio ar tua 0.32c y funud am wneud galwadau a thua 0.12c am dderbyn galwadau.
”Mae angen i ddefnyddwyr ffonau teithiol wybod na fydd defnyddio eu ffôn mewn gwlad arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bydd bil anferth yn eu disgwyl pan gyrhaeddan nhw adref i Gymru. Mae Comisiynydd Ewrop yn cynnal adolygiad o brisiau crwydro gyda ffôn teithiol ac rwy’n gobeithio bydd hyn yn arwain at welliannau pellach."
Diwedd.