• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Plaid Cymru yn galw am wasanaeth digidol llawn ar gyfer y Rhondda
    Rhagfyr 17eg 2010

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans ac ymgeisydd y Blaid dros y Rhondda ar gyfer y Cynulliad, Sera Evans-Fear wedi galw am degwch yn narpariaeth gwasanaethau teledu digidol ar gyfer y Rhondda. Mae nifer o bobl yn y Rhondda yn derbyn 16 sianel yn ogystal â 3 sianel manylder uwch o’u blychau teledu digidol Freeview, o’i gymharu â’r 60 neu fwy sydd ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd yn y DU.

    Cafodd y mwyafrif o drosglwyddyddion yng Nghymru eu huwchraddio i gynnwys 3 amlbleth digidol, yn erbyn y 6 amlbleth llawn mae’r mwyafrif helaeth o weddill y DU yn ei gael. Mae’r sefyllfa yma wedi arwain at y Rhondda yn methu â derbyn y rhan fwyaf o sianeli sydd ar gael.

    Dywedodd Jill Evans ASE,

    “Er ein bod yn croesawu’r newid i deledu digidol, mae wedi gadael pobl y Rhondda gyda llai o ddewis o sianeli na nifer fawr iawn o ardaloedd eraill yn y DU. Mae nifer o fy etholwyr wedi dod i gyswllt â fi yngl?n â’r mater hwn. Maen nhw’n grac am eu bod yn derbyn gwasanaeth eilradd ac na allant gael y nifer llawn o sianeli. Mae’n ymddangos bod yr uwchraddiad i’r trosglwyddyddion ond wedi cael ei hanner gwblhau ac mae hyn yn annerbyniol."

    Un etholwr nad sy’n hapus gyda’r lefel o wasanaeth mae’n ei dderbyn yw Bryn Jenkins o Lynrhedynog.

    Dywedodd Mr Jenkins, a gysylltodd â’i ASE i gwyno,

    “Mae’n warthus bod y Rhondda yn cael ei gosbi unwaith eto. Mae’n annheg bod rhai pobl yn cael llawer gwell gwasanaeth na ni. Dylem ni i gyd gael ein trin yn gyfartal.”

    Ychwanegodd Cynghorydd Treorci, Sera Evans-Fear;

    "I fi, mae hwn yn enghraifft arall o’r fargen wael mae’r Rhondda’n ei gael yn nhermau gwasanaethau. Mae teledu digidol i fod i wella’r gwasanaeth sydd ar gael, ond mae nifer o bobl yn y Rhondda yn grac iawn eu bod yn derbyn 16 sianel yn unig, un o’r isaf yn y DU. Bydd Plaid Cymru yn y Rhondda yn gwthio Ofcom a’r darparwyr teledu digidol i wella’r gwasanaeth ar unwaith.”

    Mae’r penderfyniad i ddarparu mwy o sianeli yn gorwedd gyda darparwyr masnachol. O’r tair amlbleth sydd yn gwasanaethu’r Rhondda, mae un o dan berchnogaeth SDN (Rhwydweithiau Digidol S4C/ITV PLC) a’r gweddill o dan berchnogaeth Arqiva.

    Mae Ms. Evans wedi addo i roi pwysau ar y ddau gwmni i ehangu eu gwasanaeth, gan ychwanegu;

    "Mae Ofcom wedi cynnig y cyfle i weithredwyr yr amlblethau masnachol hyn i fabwysiadu safleoedd trosglwyddyddion ychwanegol, a hyd yma cafodd hwn ei wrthod. Byddaf yn hyrwyddo’r achos dros gael gwasanaeth digidol llawn i’r Rhondda fel mater o flaenoriaeth ac yn ysgrifennu at y ddau gwmni perthnasol."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans