Plaid Cymru’n rhoi cefnogaeth ysgubol i’w Llywydd i gefnogi boicotwyr talu’r drwydded deledu
Mae Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE wedi ennill cefnogaeth ei phlaid ar gyfer ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i’r cyhoedd ymatal rhag talu ffi’r drwydded deledu hyd nes bod annibyniaeth golygyddol a chyllidol S4C yn cael eu sicrhau.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Rwyf i fel nifer eraill wedi penderfynnu peidio â thalu’r drwydded deledu mewn protest yn erbyn penderfyniad Llywodraeth y DG. Mae’r ymosodiad ar S4C yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg, ac mae’n haeddu’r ymateb cryfaf posib. Mae’r ffaith fod cynifer o bobl yn gwrthod talu’r drwydded deledu yn dangos cryfder y teimladau a’r dicter ynghylch hyn.”
Aeth Ms Evans ymlaen,
“Gall pob unigolyn ddewis sut maen nhw am ymgyrchu dros S4C. Mae Plaid Cymru wedi cefnogi, yn wir wedi arwain, ymgyrchoedd tebyg yn y gorffennol, a dylem nawr rhoi ein cefnogaeth i bawb sy’n ymgyrchu dros S4C. Rhoddwyd cefnogaeth ysgubol i’r cynnig hwn gan y gynhadledd, am ei fod yn adlewyrchu pryderon aelodau Plaid Cymru drwy’r wlad. Mae’n rhaid i ni amddiffyn annibyniaeth S4C, yn olygyddol ac yn ariannol. Byddai’r newidiadau arfaethedig a gynigiwyd gan Lywodraeth Tori-Rhyddfrydol y DG yn tanseilio annibyniaeth S4C, ac yn tanseilio arweinyddiaeth ac awdurdod golygyddol y sianel yn ogystal. Mae’n rhaid i Lywodraeth y DG dynnu ei gynigion yn ôl a chaniatau adolygiad llawn i ddyfodol S4C.”
Galwodd y cynnig ar Blaid Cymru i ymchwilio i botensial talu ffioedd trwydded a godwyd yng Nghymru i BBC Cymru, a fyddai wedyn yn cytuno i dalu BBC Lloegr am y gwasanaethau rheiny yr oedd am dderbyn ganddynt. Byddai wedyn botensial i BBC Cymru ddarparu rhaglenni ar gyfer cyfran a gytunwyd o holl ddarlledu ar rwydwaith y DG yn gysylltiedg â chyfran y boblogaeth.
Diwedd.