• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Gwleidyddion Plaid Cymru yn clywed am bryderon pysgotwyr Caergybi
    Mawrth 20ain 2009

    Roedd ASE Plaid Cymru, Jill Evans ac ymgeisydd seneddol y Blaid dros Ynys Môn, Dylan Rees, yng Nghaergybi ar Ddydd Gwener i gwrdd â physgotwyr Ynys Môn.

    Ymunodd y cyn ASE, Eurig Wyn, sydd yn un o ymgeiswyr Plaid Cymru yn yr Etholiadau Ewropeaidd ym mis Mehefin, gyda nhw.

    Llun: Gweler o’r chwith i’r dde yn y llun yn Noc Pysgod Caergybi: Eurig Wyn, Peter Carmichael (Solitaire Marine Services), Jill Evans ASE a Dylan Rees.

    Gweler o’r chwith i’r dde yn y llun yn Noc Pysgod Caergybi: Eurig Wyn, Peter Carmichael (Solitaire Marine Services), Jill Evans ASE a Dylan Rees.

    Dywedodd gwleidyddion Plaid Cymru y byddent yn lleisio pryderon y pysgotwyr gyda’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones, yn enwedig y diffyg rhybudd a gafwyd ynglyn â newidiadau i ardaloedd pysgota.

    Fe gwrddon nhw â physgotwr lleol, Ian Hughes a chyda Peter Carmichael o Solitaire Marine Services, sydd yn cyflogi criw o bump. Fe wnaethon nhw sôn wrth wleidyddion Plaid Cymru am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth ymdrin â chwotâu a chyfyngiadau ar le gawn nhw bysgota.

    Dywedodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans:

    "Rydym ni ar ochr y diwydiant pysgota Cymreig ac roeddwn yn falch i allu dod yma heddiw a chlywed eu pryderon. Mae’n rhyfeddol ein bod yn allforio tua 140,000 tunnell o gimychiaid a physgod cregyn bob blwyddyn ond yn mewnforio tua’r un nifer o Ogledd America.

    "Gyda’r galw cynyddol am fwyd o ansawdd da a gynhyrchir yn lleol, dylwn fod yn gallu dal a phrosesu pysgod yn lleol ac yna eu cyflenwi i siopau yn y wlad hon. Byddai hyn yn hwb i’r diwydiant pysgota Cymreig ac rwy’n ymgyrchu dros gael mwy o gefnogaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd yn lleol."

    Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer Ynys Môn, Dylan Rees:

    "Yn ystod cyfnod o ddirwasgiad economaidd, mae’n hanfodol ein bod yn gwneud y cyfan a allwn i gefnogi a hybu diwydiannau bychain fel hyn yn hytrach nac achosi anawsterau pellach. Mae hwn yn ddiwydiant pwysig ar gyfer Ynys Môn ac mae’n hanfodol ein bod yn gwneud popeth allwn ni i gadw ein diwydiant pysgota yma yng Nghaergybi.

    "Mae’r diwydiant pysgota yn wynebu heriau difrifol wrth ymateb i’r cwotâu newidiol a’r cyfyngiadau ar le gallan nhw bysgota. Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y newidiadau yma’n cael eu gweithredu mewn modd sensitif fel y gall pysgotwyr gynllunio a pharatoi ymlaen llaw yn gywir."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans