• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Myfyrwraig o Gaernarfon yn Senedd Ewrop
    Gorffennaf 15fed 2011

    Bu cyfle yr wythnos hon i fyfyrwraig o Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon i gael cyfnod o brofiad gwaith yn Senedd Ewrop.

    Estynnodd Jill Evans ASE groeso i Sara Pennant i'w swyddfa ym Mrwsel. Mae Sara ar ei blwyddyn olaf yn y chweched dosbarth yn astudio Ffrangeg, Hanes, Cymraeg a Cherddoriaeth ac roedd ganddi ddiddordeb i weld sut mae sefydliadau Ewropeaidd yn gweithio.

    Wrth siarad ynglyn â'i chyfnod ym Mrwsel, dywedodd Sara,

    "Drwy fod yn bresennol mewn gwahanol gyfarfodydd gyda rhai o awreinyddion gwleidyddol pwysicaf Ewrop, rwyf wedi dod i sylweddoli pa mor berthnasol yw eu gwaith nhw i ni yng Nghymru. Cefais y cyfle i glywed bwriad yr Arlywyddiaeth Pwyleg ar gyfer yr amgylchedd dros y chwe mis nesaf ac fe wnaeth hyn i mi sylweddoli'r broblem enfawr sydd gan y Senedd Ewropeaidd i ddatrys ein problemau o newid hinsawdd ar draws y byd."

    "Yn ogystal â dod yma i ddysgu ynglyn â gwaith Senedd Ewrop, fe ddes i yma i ymarfer fy Ffrangeg, ar rwy'n sicr wedi dod yn fwy hyderus wrth siarad yr iaith. Mae bod mewn sefyllfa gwaith mor aml-ieithog gyda cyfarfodydd yn cael eu cyfieithu ar y pryd i 23 o ieithoedd yn brofiad bythgofiadwy."

    "Hoffwn i estyn diolch enfawr i Jill, am fy nerbyn i yma a'i thîm am eu croeso a'u arweiniad amhrisiadwy. Byddwn i'n awgrymu i unrhywun sydd gan ddiddordeb â gwleidyddiaeth i wneud cais i ddod yma, mae hi wedi bod yn wythnos wych."

    Dywedodd Jill Evans ASE,

    "Mae o hyd yn bleser mawr i groesawi pobl ifanc o Gymru am brofiad gwaith ym Mrwsel. Rwy’n falch fod nifer o bobl ifanc wedi gallu cael golwg fewnol ar sut beth yw gweithio yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae hyn yn helpu i godi proffil Cymru yn Ewrop.

    "Rwy'n meddwl ei fod e'n bwysig i roi cyfle i bobl ifanc o Gymru i weld sut mae Senedd Ewrop yn gweithio a sut gall Cymru ware ei rhan ynddi."

    Diwedd/End.

    Ffoto: Jill Evans