Yr wythnos diwethaf fe gafodd myfyrwraig o Goleg Meirion Dwyfor Dolgellau y cyfle i weithio yn y Senedd Ewropaidd ym Mrwsel.
Estynnodd Jill Evans ASE groeso i Manon Jones i'w swyddfa ym Mrwsel. Mae Manon yn ei flwyddyn olaf o'r chweched dosbarth yn astudio Ffrangeg, Hanes a'r Gyfraith ac roedd ganddi ddiddordeb i weld Ffrangeg mewn awyrgylch gwaith a dysgu mwy am y sefyllfa yn Ewrop.
Wrth siarad yngl?n â'i amser ym Mrwsel, dywedodd Manon,
“Mae'r cyfle i weld beth sy'n digwydd tu fewn i'r Senedd ym Mrwsel wedi bod yn un anhygoel. Rwyf wedi gallu cymryd nodiadau ar nifer o gynadleddau, a gweld yr holl drafodaethau ac ymchwil sy'n llunio'r Undeb Ewropeaidd. Cefais gyfle i fynychu cynhadledd amaeth a chlywed gwahanol safbwyntiau yngl?n â materion sydd yn bwysig iawn i ni yng Nghymru. Cefais hefyd gyfle i weld rôl cyfieithwyr yn y senedd, a pha mor effeithiol yr oeddent yn cyfieithu ar y pryd. Roedd yn anhygoel i glywed cymaint o ieithoedd yn cael i’w siarad ac rwy'n sicr fod y profiad o wrando ar gymaint o Ffrangeg wedi bod o les i mi. Hoffwn ddiolch i Jill Evans am y cyfle yma, a hefyd i Sara Davies a Sara Medi am roi croeso cynnes i mi. Roedd y profiad o fyw mewn dinas a chymaint o amrywiaeth yn un cyffrous iawn, a hoffwn ddod yn ôl i Frwsel yn fuan.”
Dywedodd Jill Evans ASE, sydd hefyd yn Lywydd Plaid Cymru,
“Roedd hi’n braf iawn cael Manon yma'r wythnos hon a dwi’n gobeithio ei bod wedi mwynhau. Gan fod ieithoedd o ddiddordeb mawr iddi, roedd hi’n brofiad arbennig i Manon cael bod yn y Senedd Ewropeaidd a chlywed holl ieithoedd Ewrop yn cael eu defnyddio. Mae’n dda gweld bobl ifanc yn cymryd diddordeb mewn materion gwleidyddol, yn enwedig gyda’r argyfwng ariannol yn Ewrop ar hyn o’r bryd a’r pwysigrwydd o gael llais cryf i Gymru. Gobeithiaf y bydd Manon yn arddel ei diddordeb a dealltwriaeth o faterion Ewropeaidd, a dymunaf bob lwc iddi wrth ddechrau yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf.”
Diwedd/End.