Mae Jill Evans ASE wedi croesawu Eleri Watson o Abertawe ar brofiad gwaith yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg yr wythnos hon. Myfyrwraig pedair ar bymtheg oed yw sydd yn astudio ym Mhrifysgol Durham.
Dywedodd Jill Evans,
"Rwy’n meddwl ei fod e’n bwysig i roi cyfle i bobl ifanc o Gymru i weld sut mae Senedd Ewrop yn gweithio a sut gall Cymru ware ei rhan ynddi.
"Mae wedi bod yn wych i gael Eleri gyda ni yn Strasbwrg yr wythnos hon ac rwy’n gobeithio ei bod hi wedi mwynhau’r profiad. Mae’n hanfodol ein bod ni fel gwleidyddion yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud â gwleidyddiaeth - nhw yw ein harweinwyr yn y dyfodol."
Dywedodd Eleri Watson,
"Mae wedi bod yn wythnos wirioneddol ragorol. Mae diddordeb wedi bod gen i erioed yng ngwleidyddiaeth Ewropeaidd a bu’n rhyfeddol i ddod i galon wleidyddiaeth Ewropeaidd i gael profiad o lygad y ffynnon o’r ffordd mae seneddwyr yn gweithio a’r cyffro sydd yn ei amgylchynu."
Ychwanegodd Eleri,
"Bydden i’n argymell y profiad hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn materion Ewropeaidd - mae wedi bod yn wythnos ysbrydolgar."
Diwedd/End.