• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Myfyriwr o Ddyffryn Conwy yn Senedd Ewrop
    Mehefin 30ain 2010

    Yr wythnos hon bu Jill Evans ASE yn estyn croeso i Cai Elis, sydd yn fyfyriwr chweched dosbarth, i Frwsel am wythnos o brofiad gwaith yn ei swyddfa yn Senedd Ewrop.

    Mae Jill yn rhedeg cynllun sydd yn rhoi profiad gwerthfawr yn y Senedd i bobl ifanc o Gymru. Mae Cai, sydd yn hanu o Gerrigydrudion, ar hyn o bryd yn astudio ei lefel A mewn Ffrangeg, Hanes a Llenyddiaeth Saesneg yn chweched dosbarth Ysgol Dyffryn Conwy.

    Llun: . Mae’r llun yn dangos ASE Plaid Cymru, Jill Evans gyda myfyriwr, Cai Elis, o Gerrigydrudion yn Senedd Ewrop ym Mrwsel.

    . Mae’r llun yn dangos ASE Plaid Cymru, Jill Evans gyda myfyriwr, Cai Elis, o Gerrigydrudion yn Senedd Ewrop ym Mrwsel.

    Wrth siarad ynglyn â’i amser ym Mrwsel, dywedodd Cai:

    "Mae bod yn bresennol yn ystod y dadleuon a sesiynau pleidleisio wedi gwneud i fi sylweddoli pa mor wirioneddol bwysig yw’r Senedd a’r Undeb Ewropeaidd, a sut mae llawer o’i ddeddfwriaeth yn berthnasol i’n bywydau bob dydd yng Nghymru. Bydden i yn bendant yn argymell i unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, neu’r Undeb Ewropeaidd i ofyn am brofiad gwaith yma, mae wedi bod yn eithriadol o fuddiol i fy nealltwriaeth o wleidyddiaeth Ewropeaidd."

    "Fe ddes i yma i ymarfer fy Ffrangeg ac i glywed yr iaith yn cael ei siarad mewn awyrgylch waith, ac er fy mod ym Mrwsel am wythnos yn unig, rwy’n teimlo llawer mwy hyderus i siarad yr iaith nawr. Wrth ystyried yr amrywiaeth ieithyddol yma, byddai profiad gwaith yn y senedd o fudd i unrhyw un sydd yn astudio iaith Ewropeaidd; mae popeth yn y prif ddadleuon yn cael ei gyfieithu ar unwaith mewn i 23 iaith sydd yn anhygoel i fi."

    "Hoffwn i ddiolch i Jill am y cyfle i ddod i Frwsel am brofiad gwaith, i Sara Davies a Sara Medi yn y swyddfa ac i bawb arall am roi croeso cynnes i fi. Mae wedi bod yn wythnos dda iawn!"

    Mae Cai yn gobeithio i barhau â’i astudiaethau Ffrangeg a chael gyrfa ym maes gwleidyddiaeth yn y dyfodol.

    Dywedodd Jill Evans ASE,

    "Mae’n bleser gen i bob amser i estyn croeso i bobl ifanc o Gymru i fy swyddfa ym Mrwsel er mwyn iddyn nhw gael profiad uniongyrchol o sut mae sefydliadau Ewropeaidd yn gweithio. Fe wnaeth Cai gyfraniad arbennig i’n tîm yma ym Mrwsel ac fe helpodd godi proffil Cymru yn Ewrop.

    "Ar yr un pryd, fe welodd hefyd faint o waith sydd i’w wneud o hyd wrth ymladd dros fuddiannau Cymru. Er enghraifft, gwrandawodd ar ddadl bwysig ar arolygiadau lladd-dai, rhywbeth y bues i’n gweithio arni gyda UNISON. Cyfarfu Cai hefyd â Maredudd ap Gwyndaf o’r ymgyrch .cym sydd yn ymladd dros yr hawl i Gymru gael ei ôl-ddodiad parth ei hun.

    "Fe ymunodd e’ hefyd gyda fi yn nirprwyaeth Palestina ac fe glywodd ohebwyr yno yn sgwrsio am eu profiadau gyda’r llynges fach i Gaza ac fe welodd dystiolaeth fideo o ymosodiadau gan Israel ar y llongau cymorth.

    "Roedd yn bleser gweithio gyda Cai a dymunaf bob lwc iddo am y dyfodol."

    Diwedd/End.

    Ffoto: Jill Evans