• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Jill yn estyn croeso i fyfyriwr o’r Gogledd i Frwsel
    Ionawr 24ain 2009

    Mae Jill Evans ASE o Blaid Cymru wedi croesawi Thomas Roberts, myfyriwr o Ogledd Cymru i Frwsel am wythnos o brofiad gwaith fel stagiaire yn ei swyddfa Seneddol Ewropeaidd.

    Llun: Gwelir ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn y llun gyda Thomas Roberts yn Senedd Ewrop ym Mrwsel.

    Ffoto: Gwelir ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn y llun gyda Thomas Roberts yn Senedd Ewrop ym Mrwsel.

    Mae Jill yn rhedeg cynllun sydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc o Gymru ennill profiad gwaith gwerthfawr yn Senedd Ewrop. O Ruthun y daw Tom ac fe astudiodd Ffrangeg, Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth yng Ngholeg Iâl, Wrecsam. Mae’n astudio Gradd Meistr ym Mhrifysgol Manceinion.

    Wrth sgwrsio am ei gyfnod ym Mrwsel, dywedodd Tom:

    "Mae bod yn bresennol wrth i ddeddfwriaeth gael ei drafod a’i bleidleisio arni yn sicr yn ychwanegu dimensiwn arall i unrhyw un sydd yn astudio gwleidyddiaeth neu’r Undeb Ewropeaidd a byddwn yn bendant yn ei argymell.

    "Rwyf wedi bod ar lawer o leoliadau ac yn yr un yma, fe roddwyd tasgau i fi sydd wedi fy helpu llawer. Mae’r swm o waith maen nhw’n ei wneud yma yn anferthol.

    "Yr hyn sy’n anhygoel yw’r gwaith tîm rwyf wedi ei weld, nid yn unig o fewn Plaid Cymru, ond o fewn grwp seneddol Cynghrair Rydd Ewrop. Fyddwch chi ddim yn gweld hynny’n aml mewn gwleidyddiaeth."

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    "Mae o hyd yn bleser mawr i groesawi pobl ifanc o Gymru am brofiad gwaith ym Mrwsel. Rwy’n falch fod nifer o bobl ifanc wedi gallu cael golwg fewnol ar sut beth yw gweithio yn sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae hyn yn helpu i godi proffil Cymru yn Ewrop.

    "Bu Tom yn help mawr ac mae ganddo ddiddordeb brwd yng ngwleidyddiaeth. Rwy’n ddiolchgar am y gwaith yma ac rwy’n dymuno’n dda iddo gyda’i astudiaethau yn y dyfodol."

    Diwedd/End.

    Ffoto: Jill Evans