• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Plaid Cymru yn canolbwyntio ar ail-adeiladu ac adnewyddu yn Nyffryn Conwy
    Medi 9fed 2011

    Mae Arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones a Llywydd y Blaid Jill Evans ASE heddiw wedi ymweld â chanolfan Bwyd Cymreig Bodnant sy’n cael ei hadeiladu ar fferm y Ffwrnas ar Ystad Bodnant.

    Mae adeiladau’r fferm ar lan yr A470 yn Nyffryn Conwy yn dyddio o’r 18fed ganrif a maent yn cael eu hadnewyddu’n llwyr fel rhan o broject £6.5 miliwn i adeiladu ysgol goginio, siop, bwyty ac ystafell de gyfochr â chanolfan rhagoriaeth ar gyfer cynhyrchu bwyd Cymreig yn cynnwys caws, iogwrt a hufen ia. Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i ganolfan cadw gwenyn cenedlaethol Cymru. Mae’r contractwyr lleol K&C Construction yn datblygu’r safle gyda chymorth £2.7 miliwn a gymeradwy-wyd gan Lywodraeth diwethaf y Cynulliad drwy’r Gronfa Datblygu Ewropeaidd.

    Photo: Jill Evans ASE gyda Ieuan Wyn Jones AC ymweld â chanolfan Bwyd Cymreig Bodnant

    Dywedodd Ieuan Wyn Jones AC,

    "Bydd Canolfan Bwyd Cymreig Bodnant yn hwb sylweddol i’r economi lleol gan greu dros 30 swydd a chan hyrwyddo a thynnu sylw at y gorau mewn Bwyd Cymreig lleol. Rwy’n hynod falch bod y Blaid wedi cymeradwyo’r project hwn yn Llywodraeth diwetha’r Cynulliad. Yn fwy na hynny, mae’r project hwn yn enghraifft perffaith o adnewyddu ac ail-adeiladu Cymru, rhywbeth mae Plaid Cymru wedi rhoi ar frig yr agenda wleidyddol.”

    Dywedodd Jill Evans ASE,

    "Mae hyn yn broject cyffrous sydd nid yn unig yn cynnwys adfer adeiladau hyfryd, ond a fydd hefyd yn rhoi hwb sylweddol i’r economi lleol. Cefnogwyd y project gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, ac mae’r hyn rwyf wedi gweld heddiw wedi gadael argraff positif. Mae’n wych i wybod y bydd yr adeiladau hyn yn cael eu defnyddio o hyn ymlaen, fel na fyddant yn aros yn wag. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r dyfodol i Michael McLaren a Sandy Boyd o Ganolfan Fwyd Cymreig Bodnant, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r project eto pan gaiff ei gwblhau.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans