• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Llywyd Plaid Cymru Jill Evans ASE ar farwolaeth Glyn James
    Rhagfyr 7fed 2010

    Mae Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE wedi datgan ei thristwch mawr yn dilyn marwolaeth Glyn James o’r Rhondda.

    Yn enedigol o Langrannog, daeth Glyn i’r Rhondda i weithio ym Mhendyrys ac yna i lofeydd Lady Windsor.

    Safodd am y tro cyntaf mewn isetholiad yn Ystrad Rhondda yn 1959, gan golli o 4 pleidlais yn unig. Daeth dros y siom o golli drwy ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yn y Rhondda yn y flwyddyn ddilynol. Cafodd ei ail-ethol sawl gwaith a daeth yn Faer y Rhondda.

    Roedd Glyn yn gynghorydd fyddai’n ymgyrchu. Cadwynodd ei hun i ysbyty Llwynypia mewn protest i gadw gwasanaethau; dringo ar ben to swyddfeydd y cyngor i alw am fwy o wasanaethau ar gyfer y Rhondda Fach; ac fe ddarlledodd ar ei orsaf radio anghyfreithlon, ‘Radio Cymru Rydd/Radio Free Wales’ fferm Pen-rhys Isaf. Safodd am y Rhondda sawl gwaith mewn etholiadau cyffredinol a chaiff ei gofio hefyd am ddraig a anadlai fwg ar gefn lori oedd mor nodweddiadol o’r modd byddai’n cyfleu ei neges.

    Dyweodd Jill Evans,

    “Roedd Glyn yn gyfaill agos ac yn gydweithiwr yn y Blaid. Roedd yn brif ffigwr yn y Rhondda ac ym Mhlaid Cymru ac yn wir ysbrydoliaeth i fi. Carai’r Rhondda a Chymru yn angerddol a byddai ei frwdfrydedd yn cael ei adlewyrchu yn ei ymgyrchoedd lliwgar a chyffrous. Byddai byth yn rhoi stop ar ei ymgyrchu. Fe oedd yr optimist tragwyddol na wnaeth amau fyth na fyddai Cymru yn ennill ei rhyddid. Hwn yn fwy na dim, fydda i yn ei gofio am Glyn ac a fydd yn parhau i ysbrydoli cymaint ohonom ym Mhlaid Cymru am flynyddoedd i ddod. Roedd yn ddyn mawr ac arbennig a byddaf yn ei golli ac yn gweld ei eisiau’n fawr iawn. Hoffwn gynnig ein cydymdeimlad dwfn i Hawys a’r teulu ar ran Plaid Cymru.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans