• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Llywydd Plaid Cymru llawn cyffro wrth edrych ymlaen i 2012
    Rhagfyr 21ain 2011

    Dywedodd Llywydd ac Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, fod gan ei phlaid sawl rheswm i fod yn llawen dros gyfnod y Nadolig, wrth iddi yrru neges Nadoligaidd i gefnogwyr y blaid.

    Dywedodd Ms Evans,

    “Fel Aelod o’r Senedd Ewropeaidd a Llywydd Plaid Cymru, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi gyd, a blwyddyn newydd heddychlon a llewyrchus.

    Mae blwyddyn gyffrous yn ein haros ym Mhlaid Cymru, gydag arolwg o’r blaid yn cyd-fynd ag gornest arweinyddiaeth ac Etholiadau Cyngor hynod gyffrous ym Mis Mai.

    Rydym mewn cyfnod Economaidd hynod o anodd yng Nghymru, ac felly ar flaen yr agenda i mi yn Senedd Ewropeaidd fydd creu swyddi, achub gwasanaethau hollbwysig, a chryfhau Economi Cymru.

    Diolch am eich cefnogaeth ffyddlon i Blaid Cymru, ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio hefo chi dros Gymru yn 2012.”

    Diwedd.

    Llun: Jill Evans