• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cefnogaeth gref gan Blaid Cymru dros wladwriaeth Balestiniaidd
    Medi 28ain 2011

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi galw ar aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi cydnabyddiaeth ryngwladol gan wladwriaethau.

    Siaradodd Llywydd Plaid Cymru sydd hefyd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd yn nadl heddiw yn Senedd Ewrop ar y sefyllfa yn y Dwyrain Canol ym mhresenoldeb cynrychiolydd Materion Tramor yr Undeb Ewropeaidd, Y Farwnes Ashton. Cefnogodd Ms Evans gais Palestina am aelodaeth lawn o’r Cenhedloedd Unedig fel gwladwriaeth annibynnol, gan ddadlau y gallai hyn fod yn fodd i atal adeiladu aneddiadau anghyfreithlon gan Israel ar dir Palestinaidd. Byddai hyn yn ei dro yn ffordd o helpu’r trafodaethau heddwch i ail-ddechrau tuag at ddatrysiad dau-wladwriaeth parhaol.

    Mae Ms Evans wedi ymweld â Phalestina ac Israel sawl gwaith a bu’n ymgyrchydd dros hedwch yn y Dwyrain Canol ers amser maith.

    Dywedodd Jill Evans,

    "Wrth i’r Cenhedloedd Unedig ystyried cais Palestina ar gyfer aelodaeth gwladwriaeth lawn, ymunaf gyda’r nifer fawr arall ar draws Ewrop a thu hwnt wrth annog aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i gefnogi’r cais Palestinaidd."

    "Hyd yn hyn mae’r trafodaethau wedi methu. Wrth gwrs, drwy negodi yn unig y gellir cyflawni heddwch. Gallai cydnabod Gwladwriaeth Palestina arwain at rewi ar y gwaith o adeiladu aneddiadau yn y Banc Gorllewinol a dod â diwedd i’r feddiannaeth - y ffordd o sicrhau bod trafodaethau pellach yn cael eu cynnal a bod datrysiad dau-wladwriaeth o hyd yn bosibl."

    "Mae gan y Palestinaidd yr hawl i ael eu cydnabod fel gwladwriaeth ac mae hynny’n golygu byddai gyda nhw hawliau llawn i gymryd rhan ymhob cytundeb a chyfamod rhyngwladol."

    "Fodd bynnag, mae Amnest Ryngwladol wedi codi pryderon fod yr Undeb Ewropeaidd yn hyrwyddo cyfaddawd fyddai’n rhwystro atebolrwydd i’r Llys Troseddol Rhyngwladol. Byddai hyn yn tanseilio hygrededd y Llys a’r egwyddor o fynediad cyfartal i gyfiawnder ac iawndal i’r holl bobl. Gobeithiaf taw nid dyma’r achos a gofynnaf i’r Farwnes Ashton am ei hymateb."

    Mae arweinyddiaeth y Palestiniaid wedi cyflwyno ei chais am gydnabyddiaeth lawn gan y Cenhedloedd Unedig, tra bod gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau wedi dangos ei pharodrwydd i roi feto ar gais Palestina. Mae agwedd a ffordd o weithredu’r Undeb Ewropeaidd yn hanfodol wrth symud cais Palestina i fod yn wladwriaeth yn ei blaen, ac adeiladu heddwch cynaliadwy a pharhaol yn seiliedig ar ddatrysiad dau-wladwriaeth.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans