Bydd yr ASE o Gymru, Jill Evans yn dychwelyd i Gaza’r wythnos hon, flwyddyn union wedi iddi ymweld diwethaf â Phalestina, yn dilyn y bomio a’r meddiant gan Israel, a laddodd dros 1400 o bobl ac a ddinistriodd ysgolion, ysbytai, tai a ffatrďoedd. Mae llywodraeth Israel wedi cadw Gaza o dan warchae, felly does dim modd i bobl deithio’n rhydd a gall cyflenwadau hanfodol ddim mynd mewn nac allan. Mae asiantaethau cymorth yn ei chael hi’n anodd rhoi digon o fwyd i bobl.
Bydd Jill, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith i ddod â meddiannaeth Israel o Balestina i ben ac am ddatrysiad dwy wladwriaeth, yn mynd ar daith drwy Lain Gaza a gweld yr amodau byw ar hyn o bryd drosti hi ei hun. Bydd yn cynnal cyfarfodydd hefyd gyda Chyngor Deddfwriaethol Palestina, y Pwyllgor Dogfennaeth Troseddol a mudiadau cymorth.
Mae gan Gymru rwydwaith cydsafiad cryf a gweithgar gyda Phalestina. Gyrrodd gynrychiolwyr o “Swansea Action for Palestine” ambliwlans yno yn ddiweddar yn llawn o gyflenwadau meddygol o Abertawe i Gaza ar daith cymorth ddyngarol fel rhan o gymdaith “Viva Palestina”.
Caiff gwylnos cynnau canhwyllau “Rhyddid i Balestina” ei gynnal yn Heol y Frenhines, Caerdydd ar Ddydd Llun, Ionawr 18, sef pen-blwydd diwedd y weithred filwrol yno, a bydd Jill yn danfon neges o Gaza i’r cyfarfod.
Dywedodd Jill Evans:
"Un flwyddyn yn ddiweddarach ac mae dioddefaint pobl Gaza yn waeth nac erioed. Mae gan Gaza boblogaeth o 1.5 miliwn ac eto dim ond maint Wrecsam neu Rhondda Cynon Taf ydyw. Mae’r amodau sydd yn rhaid i bobl eu dioddef yn ddyddiol yn greulon ac annynol ac mae’r gosb gyfunol hon yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol.”
“Byddaf yn teithio gyda seneddwyr eraill a’r ymgyrch i ddod â’r gwarchae i ben er mwyn tynnu sylw unwaith eto at yr angen i gymryd camau rhyngwladol effeithiol fydd yn dod â diwedd i’r gwarchae a’r feddiannaeth yma.”
Nodyn:
1. Bydd Jill ar gael ar gyfer ei chyfweld. Byddwch cystal â chysylltu â Darren Jones ar 01443 441395 neu e-bost press@jillevans.net
2. Bydd rhaglen llawn ar gael cyn bo hir yn amlinellu ymweliad Jill o Ddydd Iau Ionawr 14 - Dydd Sul 17. Bydd yn cynnwys:
• Cyfarfod â swyddogion o’r Aifft a’r Gynghrair Arabaidd
• Cynhadledd i’r Wasg yng Nghroesfan Rafah
• Cwrdd â Chyngor Deddfwriaethol Palestina
• Cwrdd â Chyrff Anllywodraethol
• Taith ar hyd Llain Gaza
• Cyfarfod gyda’r “Pwyllgor Dogfennaeth Troseddol”
• Cyfarfod gyda UNRWA
3. Caiff yr wylnos ganhwyllau ei gynnal a’r rali dros ryddid ei gynnal ger delw Aneurin Bevan, Heol y Frenhines, Caerdydd, rhwng 5.30 - 7:00pm, Dydd Llun, Ionawr 18.
Diwedd.