Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans, wedi condemnio’r trais sydd wedi ail-ddechrau yn llain Gaza ac wedi cefnogi galwadau am gadoediad ar unwaith.
Ymwelodd Ms Evans yn ddiweddar â Gaza fel rhan o genhadaeth yr Undeb Ewropeaidd i Balestina ac Israel ac fe gafodd ei brawychu gan y dirywiad yn amodau byw Palestiniaid cyffredin.
Dywed adroddiad gan grwpiau dyngarol a gyhoeddwyd heddiw fod y sefyllfa ddyngarol yn Gaza nawr ar ei waethaf ers i Israel feddiannu’r diriogaeth yn 1967.
Dywedodd Ms Evans heddiw:
"Mae’r cynnydd diweddar mewn trais o fewn ac o amgylch llain Gaza yn peri dioddefaint dynol anferth a rhaid iddo ddod i ben ‘nawr. Pan ymwelais i â Gaza pythefnos yn ôl, cawsom ein syfrdanu gan y sefyllfa ddyngarol arswydus, ond mae’n ymddangos nawr fod pethau wedi mynd hyd yn oed yn waeth.
"Mae adroddiad heddiw yn amlygu’r argyfwng dyngarol. Mae tua 80% o bobl yn ddi-waith a thua tri chwarter y boblogaeth yn dibynnu ar gymorth bwyd gan y Cenhedloedd Unedig.
"Rwyf wedi ymweld ag ysbytai a gwersylloedd ffoaduriaid ac wedi gweld pobl yn ymdrechu i ymdopi gydag effeithiau gwarchae Israel.
"Mae’n hanfodol fod cymorth y Cenhedloedd Unedig yn cael ei ganiatáu i lifo heb rwystr a bod cyflenwadau ynni i Gaza yn cael eu sicrhau. Rhaid torri’r cylch presennol o drais os yw ymdrechion i ailddechrau’r broses heddwch i gael unrhyw siawns o lwyddo."