Wrth i’r sefyllfa yn Gaza fynd yn fwy anobeithiol, bydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o Gymru, Jill Evans yn dychwelyd yno ymhen wythnos er mwyn gweld y sefyllfa o lygad y ffynnon. Mae Penaethiaid holl Eglwysi Caersalem, Comisiynydd Ewrop, Benita Ferrero-Waldner, a nifer o sefydliadau, gan gynnwys grwpiau heddwch ac iawnderau dynol yn Israel, yn galw am ddod â’r gwarchae gan Israel i ben. Mae’r gwarchae yn peri trallod a dioddefaint arswydus. Yng Nghymru, caiff gwylnos ei gynnal heno yng Nghaerdydd.
Dywedodd Jill Evans heddiw:
"Cosb anghyfreithlon ar y cyd yw’r gwarchae gan Israel. Mae hwn yn erbyn cyfraith ryngwladol yn ogystal â bod yn foesol atgas. Torrwyd cyflenwadau o danwydd, dwr, bwyd, meddyginiaethau a chyflenwadau eraill i’r dynion, menywod a phlant sydd yn byw yno. Mae hwn yn drychineb dynol. Adroddwyd fod dros 65 o bobl wedi marw eisoes oherwydd i driniaeth feddygol gael ei wrthod iddyn nhw.
"Allwn ni ddim sefyll o’r neilltu a gwneud dim. Byddaf yn cwrdd ac yn sgwrsio â phobl ac yn adrodd nôl i bobl yng Nghymru ar yr hyn allwn ni ei wneud i ddod â’r dioddefaint ofnadwy yma i ben."
NODIADAU I OLYGYDDION:
Bydd Jill Evans ym Mhalestina o Ddydd Sul, Chwefror 3, hyd at Ddydd Iau, Chwefror 7. Bu’n ymweld â Phalestina sawl gwaith o’r blaen fel aelod o Ddirprwyaeth Senedd Ewrop gyda Chyngor Deddfwriaethol Palestina.
Bydd y grwp ymgartrefi yng Nghaersalem ac yn cynnal cyfarfodydd gyda’r Cenhedloedd Unedig (UNRWA ac OCHA), Aelodau’r Knesset, Aelodau o Gyngor Deddfwriaethol Palestina, Meiri Hebron, Bethlehem a Nablus, a chynrychiolwyr amryw Sefydliad Anllywodraethol o Israel a Phalestina.
Rhaglen
Chwefror 3 - Tel Aviv
Chwefror 4 - Ramallah a Nablus
Chwefror 5 - Gaza
Chwefror 6 - Bethlehem a Hebron
Mae Jill Evans ASE, Dirprwy Lywydd Plaid Cymru, yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop.