• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Plaid Cymru'n cefnogi boicot o seremoni'r gemau Olympaidd
    Mawrth 31ain 2008

    Mae arweinwyr blaenllaw Plaid Cymru yn cefnogi galwadau am foicot o seremoni agoriadol y gemau Olympaidd fel arwydd o brotest yn erbyn gweithgareddau Llywodraeth Tsieina yn Nhibet a’i hymosodiadau ar ryddid y wasg. Cyfeiriodd llywydd y blaid, Dafydd Iwan at y pwnc yn ei araith allweddol yng Nghynhadledd Gwanwyn y blaid.

    Dywedodd llywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan:

    "Mae hawliau dynol yn Tsieina ar drai isel, ac mae penderfyniad llywodraeth Tsieina i gyfyngu mynediad y cyfryngau tramor i Dibet yn warth.

    "Yn ôl yr adroddiadau mae tua cant o newyddiadurwyr, defnyddwyr y rhyngrwyd ac anghytunwyr seiber yn y carchar ar hyn o bryd yn Tsieina am wneud dim mwy na mynegi eu barn mewn modd heddychlon.

    "Mae’r protestiadau diweddar yn Nhibet, a ddilynwyd gan fesurau llym gan y llywodraeth yn brawf pendant o ddifaterwch llywodraeth Tsieina tuag at ewyllys democrataidd pobl Tibet. Bydd y gemau Olympaidd yn rhoi cyfle prin i ddanfon arwydd gref i gyfundrefn Tsieina mai digon yw digon."

    Photo: Jill Evans ASE a Dafydd Iwan

    Ategodd Jill Evans ASE a llefarydd Plaid Cymru ar Faterion Rhyngwladol:

    "Mae ‘na bryder byd-eang nid yn unig ynglyn â’r ffordd mae cyfundrefn Tsieina yn ymdrîn â’r protestiadau diweddar yn Nhibet, ond hefyd ynglyn â’i methiant i ganiatáu adroddiadau annibynnol a rhydd am y digwyddiadau.

    "Mae llygaid y byd ar Tsieina nawr, a dyw ei record ar hawliau dynol erioed wedi bod o dan graffu mwy manwl. Bydd y gemau Olympaidd yn rhoi cyfle i’r byd roi gwybod sut mae’n teimlo, ond mae’n bwysig bod unrhyw weithred yn cael ei bwyso a’i fesur ac nad yw’n peri i sefyllfa ddrwg waethygu.

    "Byddai boicot o’r seremoni agoroiadol gan wleidyddion ac eraill yn danfon neges gref ac anodd ei anwybyddu i lywodraeth Tsieina."

    Ffoto: Jill Evans