Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawi cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd a gyhoeddwyd heddiw i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriannau carbon deuocsid.
Roedd Ms Evans ym Mrwsel i glywed y cyhoeddiad gan Lywydd Comisiwn Ewrop, José Manuel Barroso. Amlinellodd ystod o gyfreithiau arfaethedig newydd ar gyfer lleihau allyriannau nwyon ty gwydr yr Undeb Ewropeaidd gan 20% erbyn 2020.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod targed uchelgeisiol iawn o leihau nwyon ty gwydr gan 3% y flwyddyn hyd at 2011 a sefydlu Comisiwn Newid Hinsawdd y mae Jill eisoes yn aelod ohoni. Hawliodd adroddiad llynedd fod gan Gymru'r lefelau uchaf o allyriannau carbon yn y DU ac un o’r rhai uchaf yn y byd datblygedig, gyda 14.2 tunnell o CO2 ar gyfer pob person o gymharu ag 8.8 tunnell yn Lloegr.
Wrth ymateb i argymhellion y Comisiwn Ewropeaidd, dywedodd yr ASE Plaid Cymru:
"Rwy’n croesawi rhai o argymhellion heddiw, ond mae angen torri allyriannau gan 30% os ydym am wneud gwahaniaeth, fel a gytunwyd gan nifer o wyddonwyr. Mae’r nod o gael 20% o’r ynni a gynhyrchir yn dod o ffynonellau adnewyddol erbyn 2020 yn gam tuag at economi sydd wedi ei seilio ar adnewyddolion er, eto buasem wedi gobeithio am weld gosod targed uwch. Yr hyn sydd yn bwysig nawr yw bod y targedau hyn yn cael eu cymryd o ddifri gan lywodraethau a diwydiant, a bod cynilo ynni ac effeithlonrwydd ynni hefyd yn flaenoriaeth uchel.
"Rydym yn wynebu her anferth ond mae gan Llywodraeth Cymru’n Un yr ewyllys gwleidyddol sydd ei angen i fynd i’r afael â’r pwnc yma. Gyda chymorth ein Comisiwn ar Newid Hinsawdd a’n Pleidwyr Ifanc ar Newid Hinsawdd a benodwyd yn ddiweddar, rwy’n credu gall Cymru arwain ar hyn ar lefel Ewropeaidd."
Nodyn
- Pump prif argymhelliad ‘Pecyn Ynni’ y Comisiwn Ewropeaidd i leihau allyriannau carbon gan 20% erbyn 2020 ac i fod yn barod i dorri 30% yn ddibynnol ar gytundeb rhyngwladol yw:
- Sustem fasnachu allyriannau wedi’i ddiweddaru;
- targedau cenedlaethol penodol sydd yn rhaid ymrwymo iddynt;
- ymagwedd newydd tuag at hyrwyddo targedau adnewyddadwy, eto gan gynnwys targedau cenedlaethol penodol yn rhaid ymrwymo iddynt;
- rheolau newydd i ysgogi dala storio carbon;
- rheolau cymorth gwladwriaethol newydd