• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • 'Peidiwch a Gwastraffu’ch Hinsawdd'
    Rhagfyr 3ydd 2007

    Clywodd seminar lefel uchel a hyrwyddwyd gan ASE Plaid Cymru Jill Evans ym Mrwsel, sut na fyddai Senedd Ewrop yn pasio deddfau newydd ar wastraff oni chaiff targedau gwastraff ac ailgylchu eu cynnwys.

    Yn narlleniad cyntaf Cyfarwyddyd Fframwaith Gwastraff yn gynharach eleni, pleidleisiodd y Senedd i gynyddu ailgylchu i leiafswm o 50% ar gyfer gwastraff trefol a 70% ar gyfer gwastraff arall erbyn 2020.

    Dywedodd Jill Evans:

    "Mae’r ddadl ar wastraff yn un bwysig iawn yn ei hun. Ond wrth ei osod o flaen cefndir Newid Hinsawdd, sef yr her fwyaf rydym yn ei wynebu heddiw, mae’n dod i ddatblygu arwyddocâd hollol newydd.

    "Rhaid i ni wneud defnydd mwy effeithlon o’n hadnoddau er mwyn lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd. Mae’r Cyfarwyddyd Fframwaith Gwastraff yn allweddol i hyn. Rwy’n siwr ein bod ni i gyd yn awyddus i weld Ewrop gyfan yn dod yn ‘gymdeithas ailgylchu’ ond rydym yn bell iawn o gyrraedd hynny ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i dirlenwi 67% o’n gwastraff trefol yng Nghymru sydd yn anghredadwy.

    "Mae gyda ni enghreifftiau da o gynlluniau ailgylchu, fel Canolfan ailgylchu a lleihau gwastraff Caergylchu yng Nghaernarfon sydd yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Gwynedd. Nid yn unig bod hwn yn ailgylchu gwastraff ond mae’n addysgu pobl ynglyn á’r angen i leihau’r maint o wastraff byddwn yn ei gynhyrchu. Dyna’r brif flaenoriaeth. Mae’r maint o wastraff byddwn yn ei gynhyrchu yn cynyddu o hyd. Rhaid i hynny newid".

    "Clywsom hefyd am enghreifftiau o weithredu blaengar mewn ardaloedd fel Hwngari a’r Eidal a dysgom sut aethon nhw ati i gynyddu lefelau ailgylchu a chompostio’n gyflym.

    "Mae gweithredu lleol yn hanfodol er mwyn cyflawni’r targedau rydym eu heisiau ar gyfer cynyddu ailgylchu a lleihau gwastraff. Ond rhaid i’r Undeb Ewropeaidd arwain y ffordd wrth osod targedau gorfodol i bob gwlad. Dyna’r unig ffordd gallwn ddatblygu polisi gwastraff gwell a helpu i ymladd newid hinsawdd ".

    Trefnwyd y seminar gan Gyfeillion y Ddaear ac fe’i mynychwyd gan arbenigwyr amgylcheddol, cynrychiolwyr y llywodraeth ac aelodau senedd Ewrop o bobman.

    NODIADAU

    Rhai o’r pynciau mwyaf dadleuol yn y ddadl ar y Cyfarwyddyd Fframwaith Gwastraff fu:

  • a ellir dosbarthu llosgyddion yn gyfleusterau adferiad ar sail effeithlonrwydd ynni

  • y diffiniad o wastraff sydd yn diffinio ymylon a ffiniau’r ddeddfwriaeth hon

  • p’un a yw’r hierarchaeth gwastraff pum cam sydd yn llywio polisi yn orfodol

  • a fydd yna dargedau Ewropeaidd ar atal gwastraff?

  • pa mor gryf fydd y mesurau ar ail-ddefnyddio ac ail-gychu?

    Sefydlwyd canolfan ailgylchu a lleihau gwastraff Caergylchu yng Nghaernarfon gan Gyngor Gwynedd er mwyn casglu ac ailgylchu gwastraff yn ogystal ag i addysgu’r cyhoedd. Mae’n agored i’r cyhoedd bob dydd o’r wythnos ac fe geir cyflenwad o ddeunaw o staff yno.

  • Ffoto: Jill Evans