• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • "Byddwch o Ddifri ynglyn â Newid Hinsawdd" meddai ASE Plaid
    Hydref 24ain 2007

    Mae Jill Evans ASE wedi honni bod digwyddiadau’r wythnos hon wedi amlygu rhagrith a safiadau ffals Llywodraeth Prydain, yn ogystal â’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar newid hinsawdd. Bu’r ASE Plaid Cymru yn siarad yn dilyn cydymdrech gan Aelodau Seneddol Ewropeaidd y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol i wanhau targedau cryf ar allyriannau CO2 gan geir, mewn pleidlais a gynhaliwyd yn Senedd Ewrop yn Strasbwrg. Mae hyn yn dilyn tro pedol yr wythnos hon gan lywodraeth y DU ar ei hymrwymiadau i dorri allyriannau nwyon ty gwydr.

    Wrth siarad o Strasbwrg, dywedodd yr ASE Plaid Cymru:

    "Tra bu rhai ohonom yn Senedd Ewrop yn pleidleisio dros gyfyngiadau cryf ar allyriannau carbon deuocsid o geir er mwyn helpu i ymladd newid hinsawdd, roedd trindod aflan o Lafur Llundain, y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud ei orau glas i ddiddymu neu wanhau targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy.

    "Ymrwymodd Llafur yn gynt eleni i gwrdd â tharged Ewropeaidd o gynhyrchu 20% o drydan drwy ffynonellau adnewyddadwy fel ynni haul a gwynt erbyn 2020. Eisoes, o fewn misoedd, maen nhw’n mynd ‘nol ar eu gair. Yn waeth na hynny, byddant yn ceisio darbwyllo llywodraethau Ewropeaidd eraill i ddilyn eu hesiampl a gwanhau’r targedu.

    "Dyw hi ddim fel pe baem ni’n llwyddo ym maes ynni adnewyddadwy ym Mhrydain. A dweud y gwir, mae allyriannau nwyon ty gwydr yn codi ac mae’r canran o egni a gawn o ffynonellau adnewyddadwy yn druenus ar 2%. Adroddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn gynharach eleni fod lefelau o garbon deuocsid yn yr awyrgylch wedi cynyddu lawer ynghynt nac oedd unrhywun wedi disgwyl a bod gyda ni wyth mlynedd yn unig ar ôl i leihau allyriannau a rhwystro effeithiau gwaethaf cynhesu byd-eang. Mae hyn yn golygu y dylwn fod yn edrych ar ffyrdd o gynyddu’r toriadau mewn allyriannau ac nid y gwrthwyneb."

    Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd mewn cyfarfod yn Strasbwrg o blaid gosod terfyn o 125g/km a fyddai’n weithredol erbyn 2015, yn dilyn gwelliannau gan Toriaid a Democratiaid Rhyddfrydol o Brydain. Fodd bynnag, cyhoeddwyd adroddiad yr wythnos ddiwethaf gan grwp seneddol Ms Evans yn dangos mai dim ond drwy osod terfyn o 120g/km ar allyriannau CO2 gan geir, gall yr Undeb Ewropeaidd obeithio cyrraedd ei tharged o leihau nwyon ty gwydr gan 20% erbyn 2020. Mae angen torri allyriannau carbon deuocsid yn sylweddol er mwyn lliniaru effeithiau newid hinsawdd.

    Ychwanegodd Jill Evans:

    "Mae tua un rhan o bump o allyriannau carbon deuocsid y byd yn dod o geir, felly mae gosod targedau llym yn hanfodol os ydym o ddifri ynglyn â lleihau’r allyriannau. Bydd penderfyniad heddiw yn rhoi mwyafswm allyriannau i geir o 125 gram y cilomedr o fis Ionawr 2015, yn hytrach na’r 120g/km sydd yn bosibl a chyraeddadwy wrth ddefnydddio’r dechnoleg sydd ar gael. Mae’n rhaid i ni gadw at y nod o dorri ein hallyriannau gan 20% erbyn 2020 ac i wneud hynny mae angen arweiniad gwleidyddol cryf ac egwyddorol. Yn anffodus rydym yn brin o hyn ym Mhrydain, nid yn unig yn y llywodraeth Lafur ond yn amlwg ymhlith y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Toriaid hefyd."

    Mae cyfrifoldeb nawr wedi ei drosglwyddo i’r Comisiwn Ewropeaidd sydd ar fin cynhyrchu pecyn cynhwysfawr o fesurau i fynd i’r afael a newid hinsawdd, gan gynnwys toriadau mewn allyriadau CO2. Roedd disgwyl rhyddhau'r cynigion cyn cynhadledd fawr ar newid hinsawdd a oedd i’w chynnal yn Indonesia ym mis Rhagfyr ond fe’i gohiriwyd hyd fis Ionawr.

    Ffoto: Jill Evans