Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ymyrryd i achos menyw o Gaerdydd a aned yn Nigeria sydd yn wynebu alltudiaeth. Mae Ms Evans yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Jackie Smith, gan ofyn am atal yr alltudiaeth am resymau trugarog o ystyried bod Kemi Ayinde wedi dioddef delio mewn pobl (people trafficking) ac yn feichiog.
Mae Ms Evans yn cefnogi’r ymgyrch Dim Ffiniau Cymru er mwyn rhwystro’r alltudiaeth a chaniatáu i’r teulu ddychwelyd i Gaerdydd.
Dywed yr ASE Plaid Cymru y gallai alltudio pobl sydd yn dioddef o ddelio beri i ddioddefwyr eraill beidio a gofyn am help, gan olygu eu bod yn parhau i fod mewn sefyllfa lle byddant yn cael eu cam-drin. Cafodd Ms Ayinde eu delio i Brydain a’i gorfodi mewn i buteindra. Fe ffodd yn 2004 a bu’n byw yng Nghaerdydd.
Mae Ms Evans wedi galw am sefydlu canolfan arbenigol yng Nghymru er mwyn helpu pobl sydd wedi dioddef o ddelio, ac mae hi eisiau i lywodraeth y DU i drin y dioddefwyr gyda thrugaredd.
Dywedodd yr ASE Plaid Cymru:
"Mae pobl sydd wedi dioddef o ddelio mewn sefyllfa ofnadwy, maent yn aml yn fenywod sydd wedi cael eu gorfodi mewn i buteindra. Mae’r bobl yma yn haeddu ein help, nid i fyw mewn ofn o gael eu halltudio os ddawn nhw ymlaen i ofyn am help.
"Mae achos Kemi Ayinde yn enghraifft dda o hyn. Rwyf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref gan ofyn am atal yr alltudio arm resymau trugarog. Mae angen i ni ddanfon neges glir i ddioddefwyr delio mewn pobl y bydd help ar gael iddyn nhw i allu byw yn annibynnol o’r bobl wnaeth eu dal.
"Dylai Ms Smith gofio i’r DU arwyddo Confensiwn Ewrop yn 2007 yn erbyn Delio Mewn Pobl lle’r oedd yna rwymedigaeth i helpu dioddefwyr. Mae angen i Ms Smith ddanfon neges glir i’r bobol a gafodd eu delio a’u gorfodi mewn i buteindra nad oes angen iddyn nhw ofni cael eu halltudio, ac fe fyddai’n cyflawni hynny drwy atal alltudio Kemi Ayinde.
"Rwy’n cefnogi ymgyrch Dim Ffiniau Cymru i ganiatáu i Ms Ayinde a’i theulu ddychwelyd i Gaerdydd."
Diwedd
Nodiadau :
Testun y llythyr a aeth i’r Ysgrifennydd Cartref:
Dear Ms Smith
I am writing to you concerning the case of a constituent of mine Ms Kemi Ayinde from Cardiff who is threatened with deportation. I would urge you most strongly to intervene and halt this deportation on compassionate grounds.
Ms Ayinde is a victim of people trafficking who was forced into prostitution. She escaped and has been living in Cardiff with her partner and young daughter and is heavily pregnant. She fears for her life if returned to Nigeria.
I have long campaigned against people trafficking and for more specialist help and support for victims. These people are often women who are forced into prostitution. They are in a terrible situation which will be made worse by the fear of deportation if they manage to escape from their captors.
You will be aware that the UK is a signatory to the European Convention Against Trafficking and I urge you to do all you can to help victims. By acting compassionately in this case you will send a signal to other victims that they do not need to live in constant fear of deportation.
I look forward to your urgent consideration of this matter.
Yours faithfully
Jill Evans MEP
(Plaid Cymru - Wales)