Croesawyd dau gynrychiolydd o Sefydliad y Merched yng Nghymru i Senedd Ewrop ym Mrwsel gan ASE Plaid Cymru, Jill Evans. Gwahoddwyd Sefydliad y Merched gan Jill i roi tystiolaeth o flaen pwyllgor seneddol dylanwadol sydd yn edrych ar swyddogaeth menywod mewn ardaloedd gwledig.
Llun: Chwith i’r Dde: Rhian Connick (Pennaeth Sefydliad y Merched, Cymru), Jill Evans ASE, Marylyn Haines Evans (Cadeirydd, Sefydliad y Merched, Cymru.
Daeth Marylyn Haines Evans, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched yng Nghymru a Rhian Connick, pennaeth y sefydliad, i Frwsel am wrandawiad o bwyllgor Hawliau Menywod a Chyfleoedd Cyfartal Senedd Ewrop. Mae Marylyn yn dod o Sir Gaerfyrddin ac mae Rhian yn gweithio yn swyddfa’r sefydliad yng Nghaerdydd.
Dywedodd Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:
"Rwy’n bles iawn fod Marylyn wedi gallu rhoi tystiolaeth yn y gwrandawiad yma ynglyn â’r rhan sydd gan fenywod i’w ware mewn ardaloedd gwledig. Roeddwn yn awyddus iawn fod y pwyllgor yn dod i glywed am y sefyllfa yma yng Nghymru. I Sefydliad y Merched mae’r diolch eu bod wedi gallu dysgu mwy am rôl allweddol menywod mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, eu cyfraniad economaidd hanfodol a’u swyddogaethau canolog mewn bywyd cymunedol.
"Pwysleisiodd Marylyn mai menywod yw asgwrn cefn nifer o gymunedau gwledig yng Nghymru ac maent yn ymgymryd â nifer o swyddogaethau. Ni fydd y rhan sydd yn cael ei ware gan fenywod yn cael ei gydnabod na’i barchu o hyd. Mae angen cydnabod cyfraniad di-dâl menywod i’r economi”
Yn ei chyflwyniad i’r gwrandawiad, dywedodd, Marylyn Haines Evans:
"Mae menywod yn chwarae rhan allweddol yn adfywiad cymunedau a gwella ansawdd bywyd drwy eu cyfranogaeth ym mywyd eu cymunedau. Mae arolwg Cyfoeth y Wlad gan Sefydliad y Merched yn dangos fod ei haelodau yn cyfrannu gwerth bron i 35m o bunnoedd mewn amser yn ystod blwyddyn o waith gwirfoddol. Mae gweithgareddau yn cynnwys helpu ysgolion lleol a helpu pobl ifanc gydag anawsterau dysgu. Mae aelodau hefyd yn gofalu am eu cymuned drwy gyfrwng gweithgareddau sydd yn digwydd heb fod neb yn sylwi arnyn nhw’n aml, fel gyrru cymdogion i apwyntiadau ysbyty a galw ar bobl hyn sydd yn byw yn eu cartrefi ar eu pennau eu hunain. Mae’r holl weithgareddau yma’n cyfrannu tuag at economi fywiog."
Ychwanegodd Jill Evans fod y cyfarfod yn arbennig o bwysig yn rhinwedd materion fel cau swyddfeydd post:
"Mae colli swyddfa post yn ergyd i unrhyw ardal, ond yn enwedig i ardaloedd gwledig pan fod cymaint o wasanaethau eraill eisoes o dan fygythiad, ac mae yna broblemau parhaus yn wynebu’r diwydiant amaethyddol Cymreig heb fod unrhyw fai arnyn nhw."