Mae ASE a Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans wedi rhoi croeso mawr i gyhoeddiad heddiw gan Gomisiwn Ewrop am gynlluniau i gyflwyno treth trafodion ariannol yn yr Undeb Ewropeaidd.
Bu Ms Evans yn ymgyrchu ers amser maith am dreth o’r math yma a’r gobaith yw y bydd yn gallu ffrwyno hapfasnach ariannol niweidiol, yn ogystal â chynhyrchu refeniw sydd ei angen yn fawr, a gwella cyllid cyhoeddus hefyd ar adeg o derfysg economaidd.
Cynigwyd y dreth bore yma gan Lywydd Comisiwn Ewrop, José Manuel Barroso yn ei anerchiad blynyddol i Senedd Ewrop. Amcangyfrifir y gallai’r fath dreth gynhyrchu hyd at €55 biliwn y flwyddyn.
Dywedodd Jill Evans ASE,
"Dyw e ond yn deg fod y banciau a’r sector ariannol a gafodd chwistrelliadau anferth o arian cyhoeddus yn dechrau ad-dalu’r ddyled honno nawr. Mae’r dreth trafodion ariannol hwn yn un ffordd o wneud hynny. Mae ganddo’r potensial i ffrwyno hapfasnachu niweidiol yn ogystal â chodi refeniw angenrheidiol ar gyfer arian cyhoeddus."
"Gwelsom arian cyhoeddus Ewrop yn cael ei dynnu allan dro ar ôl tro er mwyn achub y banciau gan adael llywodraethau’n fyr o arian sydd ei angen i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Pam ddylai pobl ar draws Ewrop dalu’r pris am drachwant y bancwyr?"
"Mae’n bryd i ffrwyno’r banciau a fu’n bennaf gyfrifol am gymaint o’r cynnwrf economaidd - ac fe basiwyd y gost ymlaen yn rhy aml i bobl gyffredin. Does dim modd y gall Llywodraeth ConDemiaid y DU gadw ei gwrthwynebiad i’r dreth yma mwyach gydag unrhyw hygrededd. Galwaf arnyn nhw i weithio gyda Chomisiwn Ewrop wrth weithredu treth traddodion ariannol teg cyn gynted a bo modd."
Diwedd.