Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi beirniadu’n hallt cytundeb a wnaed ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd fydd yn rhoi dros biliwn o bunnoedd i’r project ymchwil asiad niwclear ITER dadleuol.
Pleidleisiodd Aelodau Seneddol Ewropeaidd mewn cyfarfod yn Strasbwrg i gymeradwyo’r cytundeb i dynnu €1.3 biliwn o gyllid yr Undeb Ewropeaidd dros y ddwy flynedd nesaf i ariannu’r gorwariant sylweddol yng nghyllid y project.
Beirniadwyd y gwastraff mewn arian cyhoeddus yn hallt gan yr ASE Plaid Cymru, ar adeg pan mae trethdalwyr yng Nghymru ac ar draws Ewrop yn wynebu caledu o ganlyniad i doriadau mewn gwariant cyhoeddus.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Ms Evans:
"Wrth i wariant a gwasanaethau cyhoeddus gael ei dorri’n llym yng Nghymru, bydd gan bobl bob hawl i deimlo’n grac fod yr Undeb Ewropeaidd yn gwastraffu dros biliwn o bunnoedd ar dechnoleg niwclear sydd heb ei brofi.
"Bu’r project asiad niwclear ITER, a leolir yn Ffrainc yn un arbennig o ddadleuol. Ni fydd ar gael hyd 2050, os o gwbl, ac mae’n profi i fod yn arbennig o ddrud.
"Yn ystod y cyfnod yma o galedi, mae’n hollol annerbyniol i symiau mor anferth o arian y trethdalwr i gael ei wario ar broject ymchwil niwclear na fydd efallai’n gweithio fyth.
"Byddai’n well gwario’r arian yma ar fuddsoddi mewn pwer llanw, haul, gwynt a hydrodrydanol ac i hybu effeithlonrwydd ynni. Mae gan Gymru botensial anferth ar gyfer datblygu ynni adnewyddol a chreu swyddi gwyrddion."
Diwedd.