• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Beirniadaeth hallt gan Lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, ar reolau newydd yr Undeb Ewropeaidd ar allforion defnydd-deublyg
    Medi 28ain 2011

    Pleidleisiodd Senedd Ewrop ar reolau newydd ar Fedi 27 fydd yn rheoli allforio eitemau, nwyddau a thechnoleg defnydd deublyg, y gellir ei ddefnyddio at ddibenion sifil a militaraidd. Beirniadodd ASE Plaid Cymru, Jill Evans, y canlyniad, fydd yn methu â sicrhau gorolwg cywir o’r nwyddau hyn cyn eu hallforio. Yn dilyn y bleidlais, dywedodd Ms Evans, sydd yn Lywydd gr?p EFA,

    "Ni fydd y rheolau yn darparu’r diogelwch angenrheidiol i rwystro camddefnydd yr allforion gyda defnydd militaraidd posib. Rwy’n credu fod angen rheoli allforio nwyddau a thechnoleg o’r math yma cyn eu hallforio."

    "Mae rheoliadau tynn ar allforio nwyddau defnydd-deublyg yn hanfodol er mwyn rhwystro cyfundrefnau awdurdodaidd a grwpiau militaraidd rhag cael gafael ar arfau a thechnoleg militaraidd. Mae enghreifftiau diweddar o unbeniaid yn gorthrymu dinasyddion yn greulon gyda chymorth arfau ac offer a wnaed yng Nghymru ac mewn mannau eraill o Ewrop wedi tanlinellu’r angen am reolau allforio mwy llym. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi colli cyfle arall i wneud hyn."

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans