Arweinwyr Ewropeaidd yn cael eu hannog i ganolbwyntio ar dwf mewn niferoedd swyddi
Mae ASE Cymru gyfan Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw heddiw am gynnydd yng ngwariant y llywodraeth i er mwyn rhoi hwb i economi Cymru. Gydag arweinwyr Ewropeaidd yn cyfarfod i drafod y ffordd ymlaen i Ewrop yn erbyn cefndir streic gyffredinol ym Mrwsel, mae Llywydd Plaid Cymru wedi rhybuddio yn erbyn toriadau gwario pellach.
Daw cyfarfod heddiw wrth i ffigurau swyddogol newydd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol ddangos bod gweithgarwch economaidd yn y Deyrnas Gyfunol wedi crebachu gan 0.2% yn ystod 3 mis diwethaf 2011. Mae’r Gronfa Ariannu Ryngwladol (IMF) hefyd wedi torri ei ragolwg o dwf i’r Deyrnas Gyfunol am 2012 o 1.6% i 0.6%.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Mae’n glir nad yw’r toriadau ar wariant sydd yn cael eu mabwysiadu gan lywodraeth y DG a chan arweinwyr Ewropeaidd yn gweithio. Mae Gorllewin Cymru a’r cymoedd eisoes yn cwrdd â’r meini prawf i dderbyn y categori uchaf o nawdd gan yr Undeb Ewropeaidd, sy’n golygu mai Cymru yw un o ardaloedd tlotaf yr Undeb Ewropeaidd o hyd. Bydd toriadau pellach yn cael effaith ddychrynllyd ar ein gwlad.
Rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i osgoi dirwasgiad dwbl a’r unig ffordd y gallwn wneud hynny yw drwy hybu swyddi a thwf.
Mae’r sefyllfa yn ddifrifol iawn nawr ac oni bai y byddwn yn gweld buddsoddiad byddwn yn condemnio cenhedlaeth gyfan o bobl ifanc yng Nghymru i ddiweithdra ac annhyfiant economaidd. Mae Cymru’n parhau i ymaflyd ag effeithiau’r dirwasgiad diwethaf ac mae lefelau diweithdra yn parhau i fod gyda’r uchaf yn y DG.
Does dim modd i ni gael polisi unffurf o lymder ar draws yr Undeb Ewropeaidd oherwydd na fydd yn gweithio. Mae angen i lywodraethau fuddsoddi mewn pobl ac isadeiledd fyddai’n cael eu talu amdanynt gan bolisi Cydlyniad Undeb Ewropeaidd cadarn a chryf wedi ei ganolbwyntio ar swyddi.
Yn lle rhoi llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd mewn gefynnau drwy bolisi o lymder mae angen sicrhau bod Banciau Ewrop yn nodi eu dyledion. Mae angen i’r banciau gael eu rheoleiddio’n gywir fel na fydd gofyn i’r bobl dalu am eu camgymeriadau fyth eto. Byddai gweithredu treth trafodion ariannol yn un ffordd y gallai’r banciau gael eu gwneud i dalu eu cyfran deg o drethi. Byddai gan hyn y potensial i gynhyrchu biliynau er mwyn helpu hybu economi Cymru.
Rhaid i arweinwyr Ewrop a Phrif Weinidog y DG yn enwedig, beidio a meddwl mwyach am anghenion y bancwyr a rhoi ein pobl yn gyntaf.”
Diwedd.