• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Buddugoliaeth hanesyddol i chwaer-blaid Plaid Cymru yn Ewrop
    Mehefin 15fed 2010

    Mae Llywydd Grwp Cynghrair Rydd Ewrop (EFA) ac Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, wedi llongyfarch ei chwaer blaid ac aelod o EFA, sef yr N-VA (Cynghrair Newydd Fflandrys) ar ei buddugoliaeth hanesyddol yn Etholiadau Ffederal Gwlad Belg ddoe.

    Dywedodd Ms Evans:

    "Mae hwn yn ganlyniad hanesyddol ar gyfer Fflandrys ac i Ewrop. Rhoddodd yr N-VA raglen o newid ger bron pobl Fflandrys a’i derbyniodd yn frwdfrydig. Mae’n amlwg fod gan ei neges o symud tuag at fwy o hunan lywodraeth i Fflandrys o fewn Gwlad Belg Conffederal lawer iawn o gefnogaeth.

    "Rhaid i’r Undeb Ewropeaidd ymateb yn gadarnhaol i’r datblygiadau cyffrous sydd yn digwydd yn Fflandrys a Gwlad Belg. Gyda llywyddiaeth Gwlad Belg o’r Undeb Ewropeaidd ar fin dechrau, edrychwn ymlaen at y trafodaethau ar Fflandrys yn Ewrop.

    "Rwy’n llongyfarch yr N-VA ar ei chanlyniad etholiadol rhyfeddol."

    Diwedd.

    Nodyn

    Enillodd yr N-VA, sef chwaer blaid Plaid Cymru sydd hefyd yn aelod o Gynghrair Rydd Ewrop (EFA) Etholiadau Ffederal Gwlad Belg Ddydd Sul a dod yn blaid fwyaf Fflandrys, ac ar draws Gwlad Belg hefyd.

    Ffoto: Jill Evans