Wrth i’r bargeinio fynd yn ei flaen ynglyn â phwy fydd yn cael swydd anetholedig Arlywydd Cyngor Ewrop, mae llywodraethau Ewrop hefyd wrthi yn cyflwyno eu henwebiadau i’r Comisiwn Ewropeaidd newydd sydd â 27 o aelodau. Cyn cael eu cymeradwyo gan Senedd Ewrop, rhaid i bob un a enwebwyd ymddangos o flaen y pwyllgor seneddol perthnasol a chael ei holi i weld pa mor addas ydyw ar gyfer y swydd.
Caiff enw Comisiynydd newydd y DU ei gyflwyno gan y Prif Weinidog, Gordon Brown. Ond mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi galw am i aelodau’r Cynulliad gael dweud eu dweud yn y penodiad. Ysgrifennodd hithau at Gordon Brown ym mis Medi i ofyn iddo gytuno i hyn ond mae hi’n dal i ddisgwyl ateb ganddo.
"Os gall Aelodau Senedd Ewrop roi eu barn ar y Comisiynwyr newydd, yna dylai fod gan y Cynulliad Cenedlaethol hawl i roi ei farn ar Gomisiynydd y DU. Mae’r Comisiwn yn gorff pwerus all gynnig cyfreithiau newydd. Mae’r cyfreithiau hynny’n cynnwys materion sydd yn effeithio ar Gymru yn benodol. Dylai fod gan y Comisiynydd newydd ddealltwriaeth o hynny.
"Bu llawer o drafod ynglyn â diffyg democratiaeth yn ystod y misoedd diwethaf. Gwadwyd refferendwm i ni ar Gytundeb Lisbon gan Llafur, wrth iddi fynd yn ôl ar ei haddewid i gynnal un. Felly chafodd pobl Cymru ddim mo’r cyfle i gael lleisio’u barn. Mae enwau yn cael eu taflu o amgylch y lle ar gyfer Arlywydd newydd Ewrop fydd yn cael ei ddewis gan arweinwyr llywodraethau heb i hyd yn oed Senedd Ewrop gael hawl i leisio barn ynglyn â’r penodiad.
"Rhaid i hyn newid. Rhaid i wleidyddion ar bob lefel fod yn agored ac atebol i’r bobl maen nhw’n ei gynrychioli. Byddai rhoi’r pwer i’r Cynulliad i gytuno neu anghytuno ar y Comisiynydd Ewropeaidd a gynigir yn gam bach i’r cyfeiriad cywir. Byddai’n cydnabod realiti datganoli yn y DU o leiaf a byddai’n rhoi llais i bobl Cymru mewn proses bwysig iawn".
Diwedd.