• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Codwch eich Llais i achub meysydd chwarae
    Mai 24ain 2008

    Nid yw'n rhy hwyr i achub rhai o'r 10au o feysydd chwarae ar draws Cymru sydd dan fygythiad. Dyna oedd apêl AC Plaid Cymru ac ymgyrchydd meysydd chwarae Dai Lloyd a Dirprwy Lywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE ar Diwrnod Ewropeaidd Parciau. Maen nhw am i bobl Cymru frwydro i achub eu maes chwarae lleol drwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad dros Gymru gyfan ar y pwnc. Tynnodd yr AC sylw at 19 o feysydd chwarae sydd dan fygythiad o gael eu datblygu ar draws Cymru a galwodd ar bobl sydd am eu hachub i gyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad ar ei gynnig am ddeddfwriaeth newydd i amddiffyn meysydd chwarae rhag gael eu datblygu.

    Jill Evans ASE a Dr. Dai Lloyd AC

    Mae Dai Lloyd, AC Plaid dros Orllewin De Cymru, yn ceisio cyflwyno mesur a fyddai'n rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i ymgynghori â phobl mewn cymunedau lleol cyn gwerthu unrhyw faes chwarae ar gyfer ei ddatblygu.

    Dywedodd Dai Lloyd,

    "Wrth i fy nghynnig am ddeddfwriaeth newydd i amddiffyn meysydd chwarae fynd trwy'r prosesau angenrheidiol, dw i wedi ymweld â llawer o feysydd chwarae sydd dan fygythiad. Dw i wedi fy syfrdanu gan yr angerdd â'r pendantrwydd sy'n cael ei arddangos gan y bobl a'r cymunedau sy'n brwydro i achub eu meysydd chwarae lleol.

    "Mae Plaid yn cydnabod bod meysydd chwarae yn adnodd pwysig i'r gymuned. Y dyddiau hyn , dan ni'n cael ein hannog i wneud mwy o chwaraeon ac ymarfer corff, felly mae meysydd chwarae yn cynnig cyfleuster rhad a hawdd i'w ddefnyddio. Yn ogystal, maen nhw'n llefydd i blant ymgasglu a chicio pêl o gwmpas, rhywbeth a allai achosi niwsans rywle arall.

    "Mae fy nghynnig nawr wedi cyrraedd cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Mae'n hanfodol i'r sawl sydd â diddordeb yn y pwnc yma gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i sicrhau bod ei lleisiau'n cael eu clywed." Cynhelir Diwrnod Ewropeaidd Parciau bob blwyddyn er mwyn codi proffil ardaloedd agored gwarchodedig. Er bod sylw'r cyhoedd yn tueddu i ganolbwyntio ar ein Parciau Cenedlaethol mwyaf, mae Plaid wedi pwysleisio pwysigrwydd ardaloedd hamdden llai eu maint, mwy lleol hefyd .

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans yn cynrychioli Cymru gyfan yn y Senedd Ewropeaidd. Dywedodd,

    "Er bod parciau cenedlaethol o bwys mawr, ni ddylwn ni fyth anwybyddu'r effaith enfawr y gall ardaloedd chwarae gwyrdd lleol gael ar fywydau pobl. Mae'r ardaloedd yma yn allweddol i sicrhau bod ein plant yn cael ymarfer corff yn rheolaidd a phrofiadau dysgu amrywiol. Fel cenedl, mae rhaid inni frwydro i gadw'r meysydd chwarae yma sy'n mynd yn fwy prin.

    "Ar draws Ewrop, mae pobl yn dathlu eu parciau - mawr a bach. Un o'r bygythiadau mwyaf i'r ardaloedd yma yw datblygu ac yn aml, dim ond ar ôl iddyn nhw ddiflannu rydym yn sylweddoli pa mor bwysig ydyn nhw. Rwy'n anog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy'n cael ei gynnal gan ei fod yn rhywbeth mae rhaid inni weithredu arno nawr cyn iddi fod yn rhy hwyr."

    Mae Jill yn siarad am Diwrnod Ewropeaidd Parciau (mp3).

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans