• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Galwad gan ASE i roi diwedd ar senedd dwy sedd
    Chwefror 27ain 2008

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans wedi croesawi’r cam diweddaraf ymlaen yn yr ymgyrch i ddod â’r arfer gan Senedd Ewrop o gael dau fan cyfarfod i ben.

    Er bod y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Ewropeaidd, staff a swyddfeydd wedi eu lleoli ym Mrwsel, mae’r Senedd hefyd yn cyfarfod yn Strasbwrg am 4 dydd y mis er gwaetha’r gost anferth i’r trethdalwr a’r amgylchedd.

    Mewn ymdrech o’r newydd i ddod â’r arfer hwn i ben, mae deiseb a chanddi fwy na miliwn o lofnodion yn cael ei gyflwyno’r wythnos hon i Senedd Ewrop. Cefnogir y ddeiseb ar-lein - www.oneseat.eu - gan Ms Evans, aelod o’r Ymgyrch Dros Ddiwygio’r Senedd.

    Dywedodd Ms Evans:

    "Mae symud i Strasbwrg bob mis yn wastraff o arian, egni ac adnoddau. Mae mwy na miliwn o bobl yn cytuno gyda ni. Mae hyn yn dangos y teimladau anferth sydd yn bodoli ynglyn â’r mater yma ac mae’n rhaid i lywodraethau Ewrop dalu sylw i hyn.

    "Fel gwleidyddion, rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn newid hinsawdd. Cafwyd amcangyfrif fod symud yn ôl ac ymlaen i Strasbwrg yn allyrru tua 20,000 tunnell o CO2 ac yn costio mwy na £150 miliwn dros gyfnod o flwyddyn.

    "Mae hyn yn hollol annerbyniol ac mae’n rhaid dod â hwn i ben. Gan mai amod ydoedd a ysgrifennwyd mewn i’r cytundeb, dim ond aelod wladwriaethau all newid hwn a byddwn yn parhau i’w lobio hyd nes y gwnânt."

    Nodyn:

    Gweler www.oneseat.eu am fwy o wybodaeth. Mae’r ddeiseb wedi casglu 1.2 miliwn o lofnodion ac mae’n cael ei ystyried gan bwyllgor deisebau Senedd Ewrop yr wythnos hon.

    Er gwaetha gwrthwynebiad gan Senedd Ewrop, mae llywodraethau’n gwrthod newid y trefniant presennol sydd wedi ei ysgrifennu mewn i gytundebau’r Undeb Ewropeaidd ac a amddiffynnir yn gadarn gan Ffrainc. Gall y fath ddarpariaeth ar gyfer cytundeb ei newid yn unig gan gytundeb unfrydol o holl aelodau’r Undeb Ewropeaidd.

    Ffoto: Jill Evans