• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Teganau Gwenwynig
    ASE Plaid yn galw am reolau diogelwch i deganau
    Medi 25ain 2007

    Yn dilyn adalw mwy nac ugain miliwn o deganau gan y gwneuthurwr teganau o UDA, Mattel, o ganlyniad i’r plwm yn eu magnetau yn dod yn rhydd, mae ASE Plaid Cymru Jill Evans yn cefnogi galwadau am ddeddfau diogelwch newydd ar gyfer teganau ar lefel Ewropeaidd.

    Yn y DU, adalwyd cynnyrch yn cynnwys setiau chwarae anifail anwes a chelfi Barbie a thegannau Fisher Price.

    Bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg i bleidleisio ar y mater yr wythnos hon. Mae’r Cyfarwyddeb Diogelwch Teganau presennol yn fwy nac ugain mlwydd oed ac mae nifer o aelodau seneddol Ewropeaidd yn awyddus i’w adnewyddu yn dilyn yr ofnau diweddar mewn perthynas â diogelwch teganau.

    Wrth siarad o Strasbwrg, dywedodd Jill Evans:

    "Mae digwyddiadau diweddar yn peri i ni wneud achos cryfach ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth newydd ynghynt i wahardd teganau peryglus. Mae adalw sydd yn effeithio ar frandiau mor enwog â Barbie wedi peri syndod mawr a phryder ac wedi bod yn atgof amserol o’r angen i ddiweddaru cyfreithiau presennol.

    "Mae Cyfarwyddeb bresennol yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Diogelwch Teganau yn dyddio o 1985 ac mae angen ei adnewyddu yng ngolau’r datblygiadau gwyddonol a thechnolegol yn y blynyddoedd ers hynny. Mae angen i’r deddfwr adennill y cyfrifoldeb ar gyfer diogelwch teganau, yn hytrach na’i ddirprwyo i’r diwydiant priodol drwy safoni.

    "Yn benodol, mae angen i ni weld gwaharddiad clir ar y defnydd a wneir o’r holl sylweddau y gwyddom sydd o bosib yn achosi cancr ac ar holl bersawrau artiffisial a chyflasynnau sydd yn cael eu hychwanegu at deganau.

    "Rhaid i hwn gael ei orfodi’n gywir a’i fonitro gyda chosbau llym ar gyfer y sawl fydd yn troseddu. Thaid i ni beidio â mentro pan fydd hi’n dod i ddiogelwch ein plant."

    Diwedd

    Nodyn - pleidleisiodd Senedd Ewrop ar gynigion diogelwch teganau ar Ddydd Mercher, Medi 26. Mae gwelliant gan grwp seneddol Ms Evans yn galw am wahardd "sylweddau sydd yn garsinogenaidd, mwtagenaidd neu’n wenwynig i atgynhyrchu yn ogystal â chyfansoddion gwenwynig iawn " a "holl bersawrau, synwyryddion ac amharwyr endocrinaidd."

    Ffoto: Jill Evans