Mae Cynghorydd Ceredigion Plaid Cymru, Penri James wedi sicrhau cefnogaeth cynrychiolydd Ewropeaidd Plaid Cymru Jill Evans ASE i gefnogi galwadau cynyddol yng Ngheredigion ar Network Rail i gyhoeddi lefelau ymbelydredd gan y mastiau telegyfathrebu mae’n bwriadu eu codi ar y rheilffyrdd ger Llandre, Bow Street a Llanbadarn Fawr, yn rheolaidd. Bydd hi’n gyfreithiol ofynnol ar Network Rail i fonitro lefelau allyriant ar y mastiau arfaethedig hyn ond does dim galw cyfreithiol arnyn nhw ar hyn o bryd i gyhoeddi’r ystadegau yma’n gyhoeddus.
Ynghyd a’r Cynghorydd Penri James, fe aeth Dirprwy Lywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE i ymweld â Llandre, lle mae Network Rail eisoes wedi codi’r cyntaf o dri mast telegyfathrebu rheilffyrdd ar linell rheilffordd y Cambrian yng Ngheredigion. Yn ystod yr ymweliad, amlygodd y Cynghorydd Penri James bryderon y trigolion lleol ynglyn ag agosrwydd y mast i’r pentref.
Jill Evans ASE yn Llandre gyda’r Cynghorydd Penri James, gyda mast Network Rail yn y cefndir.
Yng Ngorffennaf 1999, mabwysiadodd Cyngor Ewrop gyfres o lefelau cyfeirnod yn sail ar gyfer uchafswm lefelau allyriannau yn y gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn cyfyngu amlygiad y cyhoedd i feysydd electromagnetig yno. Sefydlwyd gweithgor erbyn hyn a rhwng 2007 a 2008 bydd yn monitro cynnydd ar aelod wledydd wrth weithredu argymhelliad 1999.
Dywedodd y Cynghorydd Penri James:
"Mae OFCOM yn ei gwneud hi’n orfodol ar Network Rail, fel pob gweithredydd mastiau arall, i gasglu data ar yr allyriannau a ddaw o’i fastiau. Fodd bynnag, does dim gorfodaeth gyfreithiol arnyn nhw i gyhoeddi’r wybodaeth yma a’i fel ei fod ar gael i’r cyhoedd. Fel gweithred fyddai’n dangos ewyllys da i’r bobl leol, rwyf wedi gofyn dro ar ôl tro i Network Rail roi’r ystadegau yma i’n cynghorau cymuned lleol a’n cynrychiolwyr etholedig er mwyn iddynt allu sicrhau trigolion fod yr allyriannau yn parhau i aros o dan dargedau datganedig Network Rail ".
Ychwanegodd Jill Evans ASE:
"Mae’r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi cymryd camau pwysig wrth gyhoeddi argymhelliad uchafswm lefelau electromagnetig ac rwy’n disgwyl bydd allyriannau gan drosglwyddyddion Network Rail o fewn y canllawiau yma. Fodd bynnag, o ystyried y pryder a ddangoswyd gan drigolion lleol ynglyn â lleoliadau’r mastiau hyn ar ein rheilffyrdd a’r angen am eglurder ar y pwnc yma, rwy’n credu dylai Network Rail ystyried rhoi’r data ar allyriannau ar gael yn gyhoeddus er mwyn tawelu meddyliau’r bobl leol.”
Nodiadau
Gellir dod o hyd i fwy o fanylion ynglyn ag argymhelliad Cyngor Ewrop ar Orffennaf 12, 1999 (Argymhelliad Cyngor 1999/519/EC) wrth fynd i: http://ec.europa.eu/health/ph_determinants/environment/EMF/emf_en.html <>