• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Lobïwyr - ASE'r Blaid yn galw am fwy o ddidwylledd ac onestrwydd
    Mai 7fed 2008

    Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans yn cefnogi argymhellion newydd unigryw yn Senedd Ewrop fydd yn dod a mwy o dryloywder i weithgareddau lobïwyr.

    Bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn pleidleisio Ddydd Iau ar becyn o argymhellion gan gynnwys cofrestr ar gyfer y rhai hynny sydd yn lobio’r sefydliadau Ewropeaidd, datguddiadau ariannol llawn o ddiddordebau a chod ymddygiad newydd yn cynnwys cosbau am droseddu.

    Wrth siarad cyn y bleidlais ym Mrwsel, dywedodd yr ASE Plaid Cymru:

    "Rhaid i Senedd Ewrop gyflawni disgwyliadau’r bobl ohoni mewn perthynas â gonestrwydd a didwylledd. Mae hyn yn golygu fod angen i’r holl bobl hynny fydd yn ceisio dylanwadu ar bolisi ym Mrwsel gofrestru fel lobïwyr. Rhaid iddyn nhw fod yn agored ynglyn â’r cwmnïau neu’r diddordebau maen nhw’n eu cynrychioli. A dylai’r rheolau gynnwys aelodau o gyrff ymgynghorol Comisiwn Ewrop a’r llywodraethau a allai fod wedi cael eu talu gan y sectorau preifat, llywodraethol neu anllywodraethol.

    "Amcangyfrifir fod tua 15,000 o lobïwyr a 2,500 o sefydliadau lobio ym Mrwsel. Ni ddylid oedi wrth gyflwyno’r newidiadau yma. Rydym yn awyddus i weld fod y gofrestr wedi ei sefydlu erbyn diwedd y flwyddyn yma.

    "Bydd y rheolau newydd ddim yn effeithio ar fy ngallu fel ASE i ymladd dros fuddiannau Cymru. Mae swyddogaeth awdurdodau rhanbarthol a swyddfeydd cynrychioladol ym Mrwsel - fel swyddfa’r Cynulliad i’r Undeb Ewropeaidd - wedi cêl ei gydnabod fel rhan o lywodraethu aml-lefel yr Undeb Ewropeaidd. Felly dydy eu gwaith ddim yn cael ei weld fel lobio unrhyw ddiddordeb ariannol neu fusnes.

    "Mae Senedd Ewrop yn arwain y ffordd wrth geisio adeiladu’r ymddiried rhwng gwleidyddion a’r cyhoedd. Rwy’n gobeithio bydd ein henghraifft ni yn cael ei ddilyn gan San Steffan a Bae Caerdydd."

    Bydd y bleidlais yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau ym Mrwsel.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans