Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu cyhoeddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn mynd i ystyried dod ag achosion troseddau posib yn erbyn llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Derfynell LNG yn Aberdaugleddau.
Daeth y cadarnhad hwnnw mewn cyfarfod o Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop ym Mrwsel lle wnaeth Ms Evans siarad o blaid deiseb a gyflwynwyd gan ymgyrchydd o’r enw Rodney Maile sydd wedi cael cefnogaeth llawer o bobl leol. Mae’r ddeiseb wedi amlinellu torcyfraith posib o gyfraith Ewropeaidd mewn perthynas â’r derfynell. Cyrhaeddodd y llwyth cyntaf o nwy naturiol hylifedig y safle'r wythnos ddiwethaf.
Mae Comisiwn Ewrop wedi dweud nad ydyn nhw wedi eu bodloni fod llywodraeth y DU wedi cyflawni ei ymrwymiadau o dan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd i gynnal asesiadau Diogelwch ac Effaith Amgylcheddol.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad ym Mrwsel dywedodd Ms Evans:
"Bu methiant i ymgynghori â’r gymuned leol wrth ystyried lleoliad y derfynell LNG ac mae pobl yn bryderus iawn ynglyn â’r datblygiad. Mae dyfodiad y llwyth cyntaf o nwy naturiol hylifedig yn ystod y dyddiau diwethaf wedi gwneud hyn yn fwy pwysig.
"Rwy’n bles fod Comisiwn Ewrop yn cymryd hwn o ddifrif ac yn edrych mewn i’r methiant i gynnal asesiad risg cywir.”
Siaradodd ASE Plaid Jill Evans yn Senedd Ewrop o blaid deiseb sy'n codi pryderon am doriadau posib o gyfraith Ewropeaidd ynghylch canolfan LNG yn Aberdaugleddau. Yn y llun fe welir Jill gyda'r deisebwr Rodney Maile o Aberdaugleddau a Pamela Swan yn fuan wedi'r cyflwyniad i'r Pwyllgor Deisebau.