Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawi’r gefnogaeth a gafodd gan bwyllgor deisebau Comisiwn Ewrop heddiw ar gyfer dau grwp o ymgyrchwyr o Gymru. Gwahoddwyd ymgyrchwyr yn erbyn lein beipiau LNG sydd yn ymestyn o Aberdaugleddau ar draws de Cymru, a safle thirlenwi Hafod yn Rhiwabon, Wrecsam i Frwsel gan Ms Evans i gyflwyno eu deiseb i Senedd Ewrop.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad ym Mrwsel, dywedodd yr ASE Plaid Cymru:
"Rwy’n amlwg yn falch iawn fod y Pwyllgor Deisebau wedi cadw’r tair deiseb yn agored ac wedi gofyn am ragor o wybodaeth i’w helpu i benderfynu os yw cyfraith yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei dorri neu beidio.
"Mae’r Pwyllgor Deisebau a’r Comisiwn Ewropeaidd yn ystyried achosion o’r math yma o ddifrif, ac mae’n amlwg eu bod o dan yr argraff y gall fod yna achos i’w hateb."
"Rydym yn wynebu her anferth gyda newid hinsawdd, adnoddau ynni naturiol a sut y byddwn yn cael gwared â’n gwastraff, nid yn unig yng Nghymru ond drwy Ewrop gyfan, ac mae achosion fel hyn yn ein hatgoffa o’r ffeithiau yma.
"mae angen i ni edrych ar ddatrysiadau cynaliadwy, hir dymor i’r heriau yma ac i ystyried barn y cymunedau lleol wrth wneud. Ac mae hynny’n rhywbeth rwyf wedi gwthio amdani a byddaf yn parhau i wneud yn y dyfodol."
"Mae’r deisebwyr yn haeddu llawer o glod am y ffordd wnaethon nhw gyflwyno’u hachos. Cafwyd llawer o dystiolaeth ffeithiol ganddyn nhw oedd yn dangos ôl ymchwil drwyadl ac fe’i cyflwynwyd yn eglur iawn. Rwy’n sicr fod hyn wedi cyfrannu i benderfyniad y pwyllgor deisebau i gadw’r deisebau ar agor, ac fe hoffwn i'w llongyfarch am wneud hynny."
Cyflwynwyd deiseb gan ymgyrchwyr yn erbyn y lein beipiau LNG, fis Rhagfyr diwethaf ac mae Comisiwn Ewrop wedi bod yn edrych i mewn i achosion posib o dorri cyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r lein beipiau 150 milltir o hyd yn ymestyn o Aberdaugleddau hyd at Swydd Gaerloyw ac yn rhedeg o fewn metrau’n unig i dai ac ysgolion ar brydiau. Mae ail ddeiseb yn ymwneud â diogelwch terfynellau LNG yn Aberdaugleddau. Bydd Comisiwn Ewrop nawr yn gwneud ymholiadau pellach i mewn i’r pwnc.
Yn ystod yr un cyfarfod, rhoddodd drigolion oedd yn gwrthwynebu safle tirlenwi Hafod ger Wrecsam dystiolaeth ynglyn â’u deiseb hwythau. Mae eu cyflwyniad hwythau yn ymwneud â thoriadau posib i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i statws y safle fel Ardal o Gadwraeth Arbennig ac oherwydd yr effaith ar iechyd ac ansawdd bywyd yn yr ardal.