• Hafan
  • Amdanai
  • Y Wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Diwrnod mawr i Gymru ym Mrwsel
    Ebrill 1af 2008

    Ymgyrchwyr LNG a thirlenwi Hafod i gymryd eu hachos i Ewrop

    Mae llu o brotestwyr o Gymru wedi dod i Frwsel yr wythnos hon. Bydd grwpiau amgylcheddol yn deisebu Senedd Ewrop ar Ddydd Mercher ac fe fyddan nhw’n cael eu cefnogi gan ASE Plaid Cymru Jill Evans ac AC Plaid Cymru Bethan Jenkins.

    Bydd ymgyrchwyr yn erbyn lein beipiau LNG yn rhoi tystiolaeth bellach i Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop. Cyflwynwyd eu deiseb fis Rhagfyr diwethaf ac mae Comisiwn Ewrop wedi bod yn edrych i mewn i achosion honedig o dor-cyfraith yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â’r lein beipiau sydd yn ymestyn am 150 o filltiroedd o Aberdaugleddau i Swydd Gaerloyw ac sydd yn mynd o fewn metrau yn unig i dai ac ysgolion. Bydd ail ddeiseb ynglyn â diogelwch terfynellau LNG yn Aberdaugleddau hefyd yn cael ei drafod.

    Yn ogystal â hyn, bydd trigolion sydd yn gwrthwynebu safle tirlenwi Hafod ger Wrecsam, yn rhoi tystiolaeth mewn perthynas â’i deiseb hwythau a gyflwynwyd gan Jill Evans ASE ar eu rhan. Mae eu cyflwyniad yn cyfeirio’n benodol at achosion posib o dorri cyfraith yr Undeb Ewropeaidd oherwydd statws rhan o’r safle fel Ardal Arbennig o Gadwraeth ac oherwydd effaith iechyd ac ansawdd bywyd yn yr ardal.

    Wrth siarad o flaen gwrandawiad Dydd Mercher ym Mrwsel, dywedodd Jill Evans:

    "Mae hwn yn ddiwrnod mawr i Gymru ym Mrwsel. Mae pryder cyhoeddus anferth yn bodoli ynghylch lein beipiau LNG a safle thirlenwi Hafod ac roedd yn bleser gen i ddod â chynifer o etholwyr sydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y problemau yma i Frwsel er mwyn rhoi tystiolaeth o lygad y ffynnon i Aelodau Seneddol Ewropeaidd.

    "Yn y ddwy achos, methwyd y protestwyr gan yr awdurdodau. Ni roddir caniatâd ac ni ellir rhoi caniatâd i ddatblygiadau sydd yn mynd yn erbyn cyfreithiau Ewropeaidd sydd yn bodoli er mwyn diogelu ein hiechyd a’n hamgylchedd. Buaswn yn annog pobl eraill yng Nghymru sydd yn credu bod achos tebyg gyda nhw i ddod i gyswllt â fi".

    Ffoto: Jill Evans