Mae grwp o ymgyrchwyr Cymreig yn dychwelyd i Frwsel i wneud cyflwyniadau pellach i Bwyllgor Deisebau Senedd Ewrop.
Penderfynodd y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2007 fod angen cynnal ymchwiliad pellach i’r derfynell LNG a’r lein beipiau yng Nghymru. Yn dilyn tystiolaeth gan chwe deisebwr o Gymru ac ASE Plaid Cymru Jill Evans, gofynnodd y pwyllgor i’r Comisiwn Ewropeaidd gymryd golwg ar achosion o dorri saith cyfarwyddeb Ewropeaidd.
Dywedodd Jill Evans:
"Fe gefnogais y deisebwyr yn y gwrandawiad fis Rhagfyr ym Mrwsel. Cyflwynwyd tystiolaeth gymhellgar ganddyn nhw a chafwyd cefnogaeth drawsbleidiol eang ar gyfer dilyn y mater yma gyda Chomisiwn Ewrop. Dywedodd y Comisiwn y byddent yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau o dorri cyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd ac adrodd canlyniadau eu hymchwiliadau gan wahodd y deisebwyr yn ôl i Frwsel. Mae hyn wedi cael ei wneud a byddant yn mynychu cyfarfod y pwyllgor ar Ebrill 2.
"Mae’r project anferth yma wedi creu llawer o bryder ymhlith y cyhoedd ac fe amlygodd gwrandawiad fis Rhagfyr y diffyg difrifol a fu wrth beidio ag ymgynghori gyda thrigolion lleol, ymhlith methiannau eraill."
Mae’r llinell beipiau yn teithio 150 o filltiroedd o Aberdaugleddau i Swydd Gaerloyw gan groesi de Cymru a dod o fewn metrau’n unig i ysgolion a thai wrth wneud hynny. Mae’r deisebwyr - Liz Whomsley, Heather Pickford a Jim Dunckley - yn honni fod y llinell beipiau yn beryglus ac na roddwyd digon o ystyriaeth iddi, ac mae eu deiseb yn datgan fod y cynllun yn torri sawl cyfarwyddeb Ewropeaidd - a hwn yw sail eu galwad ar Gomisiwn Ewrop i ymyrryd.
Mae deiseb ar wahân i’r un yma gan Mr Rodney Maile ynglyn â’r derfynell LNG yn Aberdaugleddau yn cael ei drafod hefyd gan y pwyllgor.
NODIADAU I OLYGYDDION:
Mae’r ddeiseb yn dyfynnu saith achos o dorri cyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd, yn bennaf:
- Cyfarwyddeb 85/337 ar asesiad effaith amgylcheddol, fel y diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11 (mewn perthynas â thafellu’r asesiad, yn ogystal â diffygion difrifol ar seiliau ffeithiol)
- Cyfarwyddeb 2003/04 ar fynediad y cyhoedd at wybodaeth ynglyn â’r amgylchedd (gweler uchod, gan gynnwys gweithgareddau ffrwydro)
- Cyfarwyddeb 2003735 ar gyfranogiad y cyhoedd wrth lunio’r cynlluniau a’r rhaglenni mewn perthynas â’r amgylchedd (cf. Yr wybodaeth werthfawr ar amodau daearegol a thir y gallai gwybodaeth ei fod wedi ei gyfrannu),
- Cyfarwyddeb 92/43 ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (rhagwelir mesurau lliniariad yn unig, nid dewis o lwybrau amgen a allai osgoi niweidio safleoedd sydd wedi’u diogelu)
- Cyfarwyddeb 96/61 ar ddiogelu prif ddamweiniau diwydiannol (mewn perthynas â storio, ayb., cyfleusterau yn yr harbwr),
- Cyfarwyddeb 2003/55 ar y farchnad fewnol mewn nwy (y datganiadau mewn perthynas â diogelwch),
- Cyfarwyddeb 2004/35 ar amddiffyn y pridd (mewn perthynas â llwybro’r lein beipiau drwy ardaloedd o bridd wedi’i halogi).