Penderfynodd Pwyllgor Deisebau Senedd Ewrop heddiw bod angen ymchwiliad pellach i mewn i derfynfa a lein beipiau LNG yng Nghymru. Yn dilyn tystiolaeth gan chwe deisebydd Cymreig a’r ASE Plaid Cymru Jill Evans, gofynnodd y pwyllgor i’r Comisiwn Ewropeaidd edrych ar saith achos o dorri cyfarwyddebau Ewropeaidd.
Dywedodd Jill Evans:
"Cefnogais y deisebwyr yn gyfan gwbl yng ngwrandawiad heddiw ym Mrwsel. Fe gyflwynwyd tystiolaeth gref ganddyn nhw ac fe gafwyd cefnogaeth drawsbleidiol eang dros ddilyn y mater ymhellach gyda’r Comisiwn Ewropeaidd."
"Bydd y Comisiwn nawr yn cynnal ymchwiliad i doriadau posib o gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd."
"Mae hwn yn broject anferth sydd wedi creu llawer iawn o bryder cyhoeddus. Ymhlith methiannau eraill, amlygodd gwrandawiad heddiw'r prinder ymgynghori difrifol a gafwyd gyda phobl leol. Bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn adrodd yn ôl o’i ymchwiliadau yn gynnar yn y flwyddyn newydd pan gaiff y deisebwyr eu gwahodd yn ôl i Frwsel."
Mae’r lein beipiau yn ymestyn 150 o filltiroedd o Aberdaugleddau i Swydd Gaerloyw gan groesi de Cymru ac yn rhedeg o fewn metrau i ysgolion a thai mewn rhannau. Mae’r deisebwyr - Liz Whomsley, Heather Pickford a Jim Dunckley - yn hawlio na roddwyd digon o ystyriaeth i’r lein beipiau a’i fod yn beryglus, ac mae eu deiseb yn datgan fod y cynllun yn torri nifer o gyfarwyddebau Ewropeaidd - ar y sail yma maent yn galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i ymyrryd.
Dyfynna’r ddeiseb saith achos o dorri Cyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd, yn bennaf:
- Cyfarwyddeb 85/337 ar asesiad effaith amgylcheddol, fel y diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 97/11 (mewn perthynas â hollti’r asesiad, yn ogystal, a bod mewn perthynas â diffygion difrifol ar sail ffeithiol)
- Cyfarwyddeb 2003/04 ar fynediad cyhoeddus i wybodaeth am yr amgylchedd (gweler uchod, gan gynnwys gweithgareddau ffrwydro)
- Cyfarwyddeb 2003735 ar gyfranogaeth gyhoeddus wrth lunio cynlluniau a rhaglenni mewn perthynas â’r amgylchedd (cf. Yr wybodaeth werthfawr ar amodau daearegol a thir y gallai gwybodaeth leol fod wedi cyfrannu),
- Cyfarwyddeb 92/43 ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt (mesurau lliniariad a ragwelir yn unig, yn hytrach na dewis o lwybro amgen, a allai osgoi niweidio’r safleoedd sydd wedi’u diogelu)
- Cyfarwyddeb 96/61 ar atal damweiniau diwydiannol mawr (mewn perthynas â storio, ayb cyfleusterau yn yr harbwr),
- Cyfarwyddeb 2003/55 ar y farchnad fewnol ar gyfer nwy (y darpariaethau ar gyfer diogelwch),
- Cyfarwyddeb 2004/35 ar amddiffyn y pridd (mewn perthynas â llwybro’r lein beipiau drwy ardaloedd lle mae’r pridd wedi’i halogi).
Cyflwynwyd ail ddeiseb ar y derfynfa LNG yn Aberdaugleddau gan Rodney Maile.