Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ymuno â chydweithwyr o wledydd eraill gan alw ar wledydd yr Undeb Ewropeaidd i ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol wrth gydnabod annibyniaeth Kosova.
Croesawyd datganiad annibyniaeth Kosova gan Aelodau Seneddol Ewropeaidd o’r Alban, Cymru a Gwlad y Basg. Bydd Aelodau Seneddol Ewropeaidd yn cyfarfod yn Strasbwrg i drafod Kosova'r wythnos hon.
Mae cynrychiolwyr o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP), Plaid Cymru - the Party of Wales, plaid Gwlad y Basg, Eusko Alkartasuna ac Esquerra Republicana de Catalwnia (ERC) wedi dangos eu cefnogaeth i annibyniaeth cenedl ddiweddara Ewrop.
Llofnodwyd datganiad gan yr Aelodau Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans o Blaid Cymru, Ian Hudghton ac Alyn Smith o’r SNP, a Mikel Irujo o Eusko Alkartasuna (ac ar ran yr ERC) yn Strasbwrg yn annog aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i gydnabod y wladwriaeth newydd ac i groesawi Kosova i deulu cenhedloedd Ewrop.
Jill ac ASEau eraill EFA yn croesawu datganiad annibyniaeth Kosova ac yn galw ar aelod wladwriaethau'r UE i gydnabod y genedl newydd. Yn y llun o'r chwith i'r dde fe welir Jill Evans ASE (Plaid Cymru), Alyn Smith ASE (SNP), Ian Hudghton ASE (SNP), Mikel Irujo ASE (Eusko Alkartasuna), Chwefror 19eg 2008.
Dywedodd Jill Evans, sydd yn llefarydd ar ran Plaid Cymru dros faterion Ewropeaidd a Rhyngwladol:
"Rydym yn bles iawn i weld bod ewyllys democrataidd pobl Kosova wedi cael ei wireddu a dymunwn yn dda iddyn nhw wrth gymryd y cam hanesyddol yma. Bydd yr Undeb Ewropeaidd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu Kosova ddatblygu yn aelod heddychlon a democrataidd o deulu cenhedloedd Ewrop ac o’r herwydd mae’n ddyletswydd ar aelod wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i ymateb yn gyflym er mwyn cydnabod annibyniaeth Kosova."
Datganiad ar Kosova gan ‘Grwp Caeredin’ (Aelodau Seneddol Ewropeaidd yr SNP, Plaid ac Eusko Alkartasuna), Strasbwrg, Chwefror 19, 2008
Mae aelodau Senedd Ewrop o Eusko Alkartasuna, Plaid Cymru - The Party of Wales, the Scottish National Party, ac Esquerra Republicana de Catalunya (rhan o Grwp Caeredin) yn croesawi datganiad annibyniaeth Kosova ac yn nodi:
1. Fod yr hawl i hunan benderfyniad yn hawl ddynol sylfaenol ac yn egwyddor ddemocrataidd anaralladwy.
2. Mae’r hawl i hunan benderfyniad yn egwyddor ddemocrataidd sydd yn unol â hanfod yr Undeb Ewropeaidd, fel a ddengys gan enghreifftiau o aelodau presennol yr Undeb Ewropeaidd, megis Lithwania, Latfia, Estonia, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia neu Slofenia. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cydnabod gwledydd eraill a gafodd eu hannibyniaeth yn ddiweddar fel Montenegro (yn 2006), Croatia, Bosnia neu Macedonia, ac mae’r rhain i gyd yn wledydd sydd yn ymgeisio am aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.
3. Does gan yr aelod wladwriaethau safbwynt cyffredin ar gydnabod anibynniaeth Kosova. Mae’r Wladwriaeth Sbaenaidd yn mynnu na fydd yn cydnabod Kosova na chwaith yn sefydlu perthynas ddiplomataidd gyda hi, ac yn cwestiynu cyfreithlondeb y datganiad anibynniaeth. Magodd Ffrainc safbwynt tebyg yn 1991 gyda Slofenia, gwlad sydd ar hyn o bryd yn gafael ar Lywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd.
4. Mae Grwp Caeredin yn croesawi’r digwyddiad hanesyddol yma, sydd yn tanlinellu hawliau holl genhedloedd Ewrop i fod yn rhydd i benderfynu eu dyfodol, ac sydd yn dangos fod yr hawl yma yn egwyddor ddemocrataidd hanfodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
5. Credwn ei fod yn anochel bydd y lleiafrif o wladwriaethau o fewn yr Undeb Ewropeaidd sydd yn gwrthod cydnabod hawliau cenhedloedd o fewn eu ffiniau i benderfynu eu dyfodol yn ddemocrataidd ar sail egwyddor hunan benderfyniad, yn gorfod gwneud hynny yn y pen drawo fewn fframwaith yr Undeb Ewropeaidd.
Nodyn:
Sefydlwyd Grwp Caeredin ar ymyl cyfarfod brig a gynhaliwyd yng Nghaeredin ym mis Ionawr 2008 gan gynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol democrataidd sydd yn ymgyrchu dros anibynniaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer eu cenhedloedd. Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bleidiau mewn llywodraeth yn yr Alban, Cymru, Gwlad y Basg, Fflandrys a Chatalwnia.