Mae Llywydd Plaid Cymru Jill Evans ASE wedi pleidleisio yn Senedd Ewrop ar gyfer gwell rheolau ynglyn â hawliau cleifion i driniaeth gofal iechyd mewn gwledydd eraill.
Dywedodd Jill Evans ASE,
“Rhaid i gleifion o Gymru gael yr hawl i ddewis triniaeth sydd yn seiliedig ar eu hanghenion ac nid yr hyn allan nhw ei fforddio i’w dalu. Bydd y rheolau Ewropeaidd newydd yn gwella’r sustem bresennol sydd yn galluogi cleifion yng Nghymru i gael triniaeth mewn gwledydd Ewropeaidd eraill a chael y gost wedi ei ad-dalu. Mae hefyd yn sicrhau gall hyn ond ddigwydd gyda chytundeb blaenorol Llywodraeth Cymru yn unig fel na fydd yn cael effaith ariannol ar y ffordd mae’r gwasanaeth yn cael ei redeg o ddydd i ddydd.”
Mae’r gyfraith newydd yn amlinellu sut a phryd ellir talu am driniaeth feddygol mewn Aelod Wladwriaeth arall.
Parhaodd Ms. Evans,
“Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl gael triniaeth mor agos at y cartref ag sy’n bosibl felly ni fydd hwn yn effeithio ar nifer fawr o gleifion, ond mae’n bwysig bod gan bobl sydd yn dewis mynd dramor yn hytrach nac aros am driniaeth yr wybodaeth gywir, eu bod wedi eu hamddiffyn yn briodol ac yn gallu cymryd camau os aiff rhywbeth o’i le.
"Helpodd Plaid Cymru ddod â marchnad fewnol y gwasanaeth iechyd i ben yng Nghymru oherwydd ein bod yn credu dylai gofal cleifion fod yn flaenoriaeth bob amser. Rwy’n credu fod y gyfraith newydd yn adlewyrchu hyn."
Cefnogwyd y gyfraith newydd hefyd gan Helen Mary Jones AC, Llefarydd Iechyd Plaid Cymru.
Dywedodd Helen Mary Jones,
“Mae hwn yn newyddion da ar gyfer cleifion yng Nghymru. Mae’r gyfraith newydd yn sefydlu hawliau clir ar gyfer cleifion a fframwaith ar gyfer y sawl fyddai’n dymuno cael triniaeth dramor.
“Mae’n diogelu’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, gan ganiatáu mwy o reolaeth dros gynllunio ariannol.
“Mae’r gyfraith newydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng gofal claf a swyddogaeth y gwasanaeth iechyd.
“Byddai’n helpu Llywodraeth Cymru i barhau gyda’i waith o ddatblygu gwasanaeth iechyd o’r radd flaenaf.”
Diwedd.