• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid Cymru yn galw am fynd i’r afael â gordewdra
    Diwrnod gordewdra Ewrop i’w gynnal yfory (Mai 22)
    Mai 21ain 2010

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn gobeithio bydd y diwrnod gordewdra cyntaf yn codi ymwybyddiaeth o broblem gynyddol. Ms Evans yw cydawdur datganiad ysgrifenedig (WD 0034/2010) yn Senedd Ewrop, gydag ASEau a sefydliadau ar draws Ewrop gyfan wedi ei lofnodi eisoes. Yng Nghymru, amcangyfrifwyd bod 57% o oedolion a 33% o blant dros bwysau neu’n ordew, gyda gordewdra yn un o’r prif achosion o farwolaethau y gellid eu hatal yng Nghymru.

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    “Mae gordewdra yn cynyddu ar gyfradd gallai olygu ei fod yn epidemig ymhlith plant o fewn degawd. Gyda mwy a mwy o blant yn mynd yn ordew, mae’n hanfodol bwysig bod mwy yn cael ei wneud ynglyn â’r broblem hon. Mae Diwrnod Gordewdra yn gyfle i ni ganolbwyntio ar y broblem hon a cheisio dod o hyd i ddatrysiadau. Mae gyda ni ein problemau ein hunain yma yng Nghymru, ac yn aml mae hwn yn gysylltiedig â thlodi."

    Gyda thua 2.3 biliwn o oedolion Ewropeaidd dros eu pwysau erbyn hyn a mwy na 700 miliwn yn ordew erbyn 2015, mae gordewdra erbyn hyn yn brif achos marwolaethau ac afiechydon y gellir eu rhwystro yn Ewrop. Caiff y Diwrnod Gordewdra Ewropeaidd cyntaf ei gynnal ar Fai 22, ynghyd â datganiad ysgrifenedig Ms Evans yn galw am i’r diwrnod hwnnw fod yn Ddydd Gordewdra Ewrop o hynny ymlaen. Mae’n ddiwrnod sydd wedi ei gysegru a bob blwyddyn daw cymunedau meddygol a gwleidyddol at ei gilydd. Cafodd y diwrnod ei ddechrau yn wreiddiol gan yr Athro David Haslam, Cadeirydd a Chyfarwyddwr Clinigol, Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Y DU.

    Parhaodd Jill Evans ASE:

    "Amcangyfrifir bod miliwn o bobl y flwyddyn yn marw o faterion iechyd yn ymwneud â gordewdra ar draws y byd. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn gweld eu hiechyd yn gwaethygu o ganlyniad i ordewdra. Gobeithiaf gall Diwrnod Gordewdra Ewrop helpu i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol yma."

    Diwedd.

    Nodyn

    Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gael ei gefnogi gan fwyafrif o Aelodau Seneddol Ewropeaidd o fewn tri mis er mwyn iddo gael ei gofnodi fel safbwynt y Senedd. Yna caiff ei gyfathrebu i sefydliadau perthnasol eraill yr Undeb Ewropeaidd fydd yn gorfod ymateb iddo.

    Ffoto: Jill Evans