• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE Plaid Cymru yn brwydro i amddiffyn Traddodiad Meddyginiaeth Llysieuol Cymru
    Jill Evans ASE yn galw am reoleiddio Meddyginiaeth Llysieuol gan y llywodraeth
    Chwefror 4ydd 2010

    Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn galw ar lywodraeth y DU i ddod â deddfwriaeth ymlaen i reoleiddio meddyginiaeth llysieuol yn llwyr. Mae’n ddiwydiant sydd yn cyflogi cannoedd o bobl yng Nghymru. Heb gyfreithiau gan y DU, bydd yn rhaid i ymarferwyr llysieuol o Gymru fabwysiadu Cyfarwyddeb Cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd ar Gynnyrch Meddygol Llysieuol Traddodiadol. Bydd hyn yn cael effaith negyddol ar y diwydiant yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae ymarferwyr llysieuol wedi eu heithrio o Ddeddf Meddyginiaeth 1968 a gallant weithio heb drwydded. Bydd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd yn diystyru ac yn oruwch na’r eithriad hwn, felly bydd masnachu meddyginiaethau traddodiadol yn anghyfreithlon heb drwydded.

    Bu ymarferwyr llysieuol traddodiadol yn galw ar lywodraeth y DU i reoleiddio a chydnabod statws proffesiynol y diwydiant ers sawl blwyddyn. Mae’r newidiadau sydd ar ddigwydd yn golygu fod yn rhaid gwneud newidiadau yn y gyfraith ar frys.

    Dywedodd Jill Evans ASE:

    “Mae meddyginiaethau llysieuol wedi cael eu defnyddio yng Nghymru ers miloedd o flynyddoedd, ac maen nhw’n rhan o’n diwylliant a hanes. Roedd Meddygon Myddfai yn bobl hanesyddol byd enwog am eu defnydd o feddyginiaethau llysieuol. Rhaid i Lywodraeth y DU amddiffyn y diwydiant hwn a’r defnyddwyr drwy gyflwyno’r gyfraith hon. Gwnaeth y llywodraeth addewid i gydnabod statws proffesiynol a phwysigrwydd ymarferwyr llysieuol i ni yng Nghymru."

    Bu’r mater yn destun ymgynghoriad gan yr Adran Iechyd a Rheoleiddio Statudol Ymarferwyr Meddyginiaeth Llysieuol, gyda Sefydliad Cenedlaethol y Llysieuyddion Meddygol (NIMH) yn ychwanegu at nifer cynyddol o grwpiau sydd yn galw am reoleiddio gan y DU. Dywed Michael McIntyre, sydd yn Gadeirydd Cymdeithas Ymarferwyr Meddyginiaeth Llysieuol a Thraddodiadol Ewrop (ac yn llysieuydd a chanddo 30 mlynedd o brofiad): “Does gan hwn ddim i’w wneud â’r Gyfarwyddeb ond yn hytrach, methiant Llywodraeth y DU i anrhydeddu ymrwymiad hirdymor i ymarferwyr llysieuol er mwyn dod â nhw mewn i reoleiddiad statudol ac felly eu gwneud yn 'bobl iechyd proffesiynol awdurdodedig’ er mwyn iddyn nhw allu archebu meddyginiaeth ar gyfer cleifion unigolion o dan Erthygl 5.1 o brif Gyfarwyddeb meddyginiaethau’r Undeb Ewropeaidd.

    Parhaodd, "Daeth y Gyfarwyddeb yn gyfraith yn 2004 a dydyn ni ddim yn cwyno am hynny nawr. Bydd ei weithredu yn llwyr erbyn Ebrill 2011 yn dod â diwedd i Adran 12 (2) o Ddeddf Meddyginiaethau 1968 a cholli cyflenwad o feddyginiaethau llysieuol trydedd blaid oni bai ein bod yn cael ein rheoleiddio’n statudol. Mae hwn yn broblem i’r DU yn gyfan; dydyn ni ddim yn rhoi’r bai ar yr Undeb Ewropeaidd.”

    Ychwanegodd Jane Gray, Llywydd Sefydliad Cenedlaethol Llysieuyddion Meddygol: “Mae gan y Sefydliad (NIMH) dros 30 o aelodau sydd yn ymarfer yng Nghymru er budd pobl Cymru ac mae nifer fawr ohonynt yn Gymry Cymraeg. Mae’r holl ymarferwyr yma yn gweithio o fewn cymunedau lleol, gyda rhai fel Myddfai sydd wedi cadw at y traddodiadau llysieuol ers dyddiau’r Tywysogion.”

    Mae Lee Calderwood, yn berchennog ar Perlysiau Llyn / Llyn Herbs, sydd yn gwasanaethu Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae e’n anhapus hefyd ynglyn â’r ddeddfwriaeth newydd am sawl rheswm. Dywedodd,

    “Mae’n methu ag amddiffyn y cyhoedd drwy alw ar lysieuyddion i ymgymryd â hyfforddiant cywir a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r rhan fwyaf o lysieuyddion wedi cael eu haddysgu i lefel gradd neu du hwnt ac yn fwy na pharod i ymgymryd â hyfforddiant parhaus wedi ei bennu gan gorff goruchwylio. Mae’r llywodraeth wedi methu cydnabod bod hyn yn faes allweddol o ddiogelwch cyhoeddus.

    “Mae’r prifysgolion mwyaf yn cynnig cyrsiau gradd mewn meddyginiaeth llysieuol; felly mae gyda ni sefyllfa lle mae un adran o’r llywodraeth yn gwario miliynau yn hyfforddi myfyrwyr mewn dull proffesiynol ac adran arall sydd wrthi’n dinistrio’r statws proffesiynol hwnnw.

    “Mae’r diwydiant llysieuyddol yn cyflogi nifer fawr o bobl, yn aml mewn ardaloedd gwledig, ac mae ganddo’r gallu i roi amodau gwaith hyblyg o ran amser i bobl. Caiff y swyddi parhaol yma sy’n talu’n dda eu colli.”

    “Canlyniad dod â meddyginiaeth lysieuol i ben fydd cynnydd yn y baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn nhermau amser Meddygon Teulu (mae gan nifer sylweddol o gleifion bregus, angen ymgynghoriadau hir) a thrwy’r cynnydd yn nifer y rhagnodion ar gyfer meddyginiaethau confensiynol am gwynion hirfaith sydd fel arall yn cael eu trin yn effeithiol iawn mewn modd llysieuol ac ar gost y claf ei hun.”

    Cred Jill Evans ASE fod y fframwaith rheoleiddiol presennol yn gadael llysieuyddion cymwysedig proffesiynol dan anfantais, safbwynt a gefnogir gan Lara Bernays, Llysieuydd Meddygol sy’n ymarfer ar hyn o bryd yn y Ganolfan Gofal Iechyd yn Sir Benfro, “Fel ymarferwyr iechyd â chymwysterau uchel, teimlwn ei bod hi’n hanfodol bod maes meddygaeth gyflenwol yn cael ei roi o dan reoleiddiad proffesiynol trylwyr er mwyn sicrhau mai dim ond y sawl sy’n gymwys i’w ymarfer sy’n gwneud hynny. Nid dyma’r achos ar hyn o bryd, a gall unrhyw un ddechrau gwasanaeth gofal iechyd cyflenwol.” Ychwanegodd Jill Evans ASE:

    “Mae defnyddwyr Cymreig yn haeddu’r hawl i gael mynediad at feddyginiaeth lysieuol gan berson proffesiynol sydd wedi gorfod cwrdd â safonau clir. Heb ddeddfwriaeth y DU i’w hamddiffyn, bydd Cyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd yn gadael llysieuyddion llai heb fusnes hyfyw. Mewn diwydiant sydd yn cyflogi cannoedd o bobl yng Nghymru, ni allwn ganiatáu hynny i ddigwydd.”

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans