• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • ASE i annerch prif gynhadledd iechyd
    Galw ar yr Undeb Ewropeaidd am gynllun i fynd i’r afael ag anffrwythlondeb
    Hydref 4ydd 2007

    Bydd ASE Plaid Cymru, Jill Evans yn annerch prif gynhadledd iechyd yr wythnos hon lle bydd yn galw ar yr Undeb Ewropeaidd i weithredu cynllun er mwyn mynd i’r afael ag anffrwythlondeb.

    Cynhelir y degfed Fforwm Iechyd Ewropeaidd yn Bad Gastein, Awstria yn ystod yr wythnos hon a bydd yn dod â gwleidyddion ac ymarferwyr at ei gilydd sydd yn ymwneud â phenderfynu ar bolisi iechyd ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Bydd siaradwyr eraill yn y digwyddiad yn cynnwys gweinidogion iechyd o amryw wledydd Ewrop, Comisiynwyr Ewropeaidd, ac academyddion blaenllaw.

    Bydd Jill Evans - a oedd gynt yn drefnydd ar gyfer CHILD yng Nghymru, y rhwydwaith cymorth ar gyfer anffrwythlondeb - yn galw am fynediad cyfartal i bawb at driniaeth ffrwythlondeb ac yn cymell gweithredu cryfach ar lefel Undeb Ewropeaidd.

    Wrth siarad ar Ddydd Iau, Hydref 4 Thursday, bydd Ms Evans yn dweud:

    "Cyflwr meddygol yw anffrwythlondeb sydd yn effeithio ar un ymhob chwech o barau. Bydd yn cael effaith ddifrodus ar bobl a rhaid ei gymryd lawer mwy o ddifrif gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Aelod Wladwriaethau Ewrop.

    "Mae mynediad at driniaeth yn amrywio nid yn unig o wlad i wlad ond o fewn gwledydd ac mae llawer iawn gallwn ddysgu o wledydd fel Danmarc a Gwlad Belg, sydd wedi cynyddu mynediad at driniaeth am ddim gyda chanlyniadau cadarnhaol.

    "Mae angen i ni weld mynediad at driniaeth ffrwythlondeb o fewn cyd-destun yr heriau demograffig yr ydym yn eu hwynebu. Wrth i’r gyfradd geni leihau, bydd argaeledd technegau atgenhedlu cymorthedig a darparu’r cymorth priodol i barau yn dod yn fwy pwysig.

    "Gyda phoblogaeth sydd yn parhau i heneiddio a chyfraddau geni’n gostwng, gall gwella mynediad at driniaeth ffrwythloni ein helpu ni i ymdrin â’r heriau cysylltiedig cymdeithasol ac economaidd byddwn yn eu hwynebu. Nid y parau yn unig fydd yn elwa o hyn ond y gymdeithas gyfan."

    Ffoto: Jill Evans