• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Diwrnod Cofio’r Holocost – Sefyll yn erbyn casineb: y deyrnged orau
    Ionawr 27ain 2009

    Ar ddiwrnod Cofio’r Holocost, mae Dirprwy Lywydd Plaid Cymru, Jill Evans ASE, wrth goffau dioddefwyr yr Holocost, yn annog pobl yng Nghymru i gofio’r gwersi yng nghyd-destun digwyddiadau yn y byd heddiw.

    Dywedodd:

    "Rhaid i ni gofio holl ddioddefwyr hil-laddiad a dysgu o erchyllterau’r gorffenno. Rydym yn coffau’r miliynau o Iddewon, carcharorion gwleidyddol, pobl gyfunrywiol, Sipsiwn, pobl anabl, ac eraill a ddioddefodd o ganlyniad i’r Holocost.

    "Rhagfarn, hiliaeth ac estrongasedd yw tanwydd casineb.

    "Fel dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, rhaid i ni roi’r gwersi a ddysgwyd o’r Holocost ar waith yn y byd heddiw. Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw 'Safwch yn erbyn Casineb’. Drwy hyrwyddo dioddefgarwch yn ein bywydau dyddiol rydym yn talu’r deyrnged orau i ddioddefwyr y gorffennol."

    Llun: Holocaust Memorial Day

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans