Mae Llywyd Plaid Cymru, Jill Evans ASE wedi ymweld â chwm Nedd heddiw er mwyn atgoffa TRW o’i gyfrifoldeb cymdeithasol ac i amlygu’r effeithiau pellach fyddai cau’r gwaith yn ei gael ar y gymuned leol. Yn ogystal â chwrdd â gweithwyr TRW, fe gyfarfu Ms. Evans a’r Cynghorydd Alun Llewelyn, sef llefarydd Datblygu Economaidd Plaid Cymru ar Gyngor Castell Nedd Port Talbot gyda busnesau lleol fydd yn cael eu heffeithio gan y bwriad i gau’r ffatri.
Dywedodd Jill Evans ASE;
"Ymwelais â TRW a chwrdd â’r gweithwyr ddeng mlynedd pan oedd swyddi o dan fygythiad bryd hynny. Yn sicr doedd dim awydd gen i ddychwelyd do dan yr amgylchiadau hyn. Rwyf wedi ysgrifennu at TRW i atgoffa’r cwmni o’i gyfrifoldeb cymdeithasol ac i fynegi fy ngwrthwynebiad cryfaf i’r bwriad i’w gau. Mae gwefan y cwmni yn datgan bod, ‘TRW Automotive wedi ymrwymo at warchod yr amgylchedd, ei weithwyr a’r cymunedau lle mae’n gweithredu.’ Byddai’r golled o 255 o swyddi yn mynd yn groes i hynny: ergyd anferth fyddai hon y byddai cwm Nedd yn ei chael hi’n eithriadol o anodd ei ddioddef.
“Cwmni byd-eang yw TRW sydd yn gwneud elw anferth. Dydw i ddim yn derbyn na all busnes sydd mor llwyddiannus ail-strwythuro’i hun mewn modd sydd yn ad-dalu ymddiriedaeth ac ymroddiad gweithlu Resolfen a’r gymuned leol. Os yw TRW wedi gwir ymrwymo tuag at amddiffyn y cymunedau lle maen nhw wedi eu lleoli, byddent yn cymryd effaith lawn cau’r gwaith ar yr unigolion, eu teuluoedd a busnesau a gwasanaethau lleol eraill i ystyriaeth.
“Rwyf wedi cwrdd heddiw gyda chyfarwyddwyr John Pearce Ltd, cwmni cludiant lleol sydd yn ddibynnol ar y busnes mae TRW yn ei ddarparu. Maen nhw wedi dangos yr effaith negyddol byddai cau’r gwaith yn ei gael ar eu busnes, eu gweithwyr a’r ardal leol ac rwy’ wedi ymrwymo tuag at eu helpu mewn unrhyw fodd y gallaf.”
Dywedodd Clive Davies, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni cludiant o Lyn-nedd,
“Bydd colli TRW yn ergyd ddifrodus i’n busnes. Nhw sydd wedi bod ein cwsmer mwyaf yn ystod y 37 mlynedd y buom mewn bodolaeth. Dydyn ni ddim yn unig yn casglu llwyth o TRW ond rydym hefyd yn cludo llwyth i’r gwaith gan eu cyflenwyr. Felly bydd cau’r gwaith yn ein heffeithio’n anuniongyrchol.
“Dyw e ddim yn unig yn ergyd ddifrodus i ni, ond yn ergyd i’r gymuned gyfan.”
Dywedodd llefarydd Datblygu Economaidd Plaid Cymru ar Gyngor Castell Nedd Port Talbot, Alun Llywelyn;
"Mae’n hanfodol bod cymorth cyson yn cael ei gynnig i Gwm Nedd er mwyn brwydro yn erbyn effeithiau hirdymor cau TRW.
"Mae angen i ni gefnogi cwmnïau lleol ac anelu at gadw profiad a medrau gweithlu TRW yn y cwm.
“Hoffwn ddiolch i’n ASE, Jill Evans, am ei chymorth a’i chefnogaeth wrth ymladd i gadw TRW yn Resolfen.”
Diwedd.