Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi ymosod ar y Ceidwadwyr am adael gweithwyr Cymru lawr unwaith eto drwy bleidleisio yn erbyn cyfraith i reoli isgontractwyr sydd yn ecsploetio gweithwyr.
Roedd hi’n siarad yn Strasbwrg ar ôl pleidlais bwysig yn Senedd Ewrop ynglyn ag atebolrwydd isgontractwyr, a fabwysiadwyd gan 321 pleidlais i 235, sydd yn golygu i’r Torïaid a’u cynghreiriaid golli’r bleidlais.
Dywedodd Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:
“O weld sawl anghydfod diweddar, mae hyn wedi dangos bod yr arfer o is-gontractio ar draws Ewrop wedi arwain at dandorri cyflogau ac amodau gwaith. Defnyddir is-gontractio gan rai, yn enwedig yn y diwydiant adeiladu, fel modd o ecsploetio gweithwyr a pheidio cael eu cosbi amdano. Mae hwn yn aml yn arwain at ras i’r gwaelod yn nhermau hawliau ac amodau wrth i’r cyflogwyr gystadlu gyda’i gilydd am gostau llafur is.
"Mae wyth aelod wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd wedi cyflwyno eu cynlluniau atebolrwydd eu hunain. Mae’r rhain wedi gweithio’n dda ac yn yr Almaen arweiniodd at weithwyr yn ennill ôl-daliadau gwerth miloedd o bunnoedd.
"Ond mae angen cyfraith Ewropeaidd ar gyfer yr adeg pan fydd is-gontractio yn digwydd ar draws ffiniau. Bydd yn rhaid i gwmnïau fod yn gyfrifol am amodau’r gweithwyr a gyflogir gan bobl fyddan nhw’n is-gontractio gwaith iddyn nhw. Rydym yn galw am "atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol" i sicrhau hyn. Rydym hefyd yn awyddus i weld ymgyrchoedd fydd yn hysbysu gweithwyr ynglyn â’u hawliau.
“Mae Plaid Cymru ar ochr gweithwyr Cymru. Drwy wrthwynebu cyfraith newydd, mae’r Torïaid wedi dangos unwaith eto eu bod yn rhoi elw cyn pobl.”
Diwedd.
Notes
Dyma’r testun
13. Reiterates its message by calling on the Commission to establish a clear-cut Community legal instrument introducing joint and several liability at Community level, while respecting the different legal systems in place in the Member States and the principles of subsidiarity and proportionality;
This means that the Parliament has adopted the text which calls on the Commission to come forward with legislation on joint and several Liability and condemns strongly illegal practice in the field of subcontracting.
Mae hyn yn golygu fod y Senedd wedi mabwysiadu’r testun sydd yn galw ar y Comisiwn i lunio deddfwriaeth ynglyn ag atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol ac yn condemnio ymarfer anghyfreithlon ym maes isgontractio yn gryf.