Mae ASE Plaid Cymru Jill Evans wedi croesawi pleidlais yn Senedd Ewrop sydd yn galw am gynnwys y DU o fewn rheolau Ewrop i atal gweithwyr rhag cael eu hecsploetio a’u gorweithio. Dywedodd Ms Evans fod y bleidlais yn newyddion da i weithwyr yng Nghymru a phobman arall.
Mae Comisiwn Ewrop wedi cynnig Cyfarwyddeb Amser Gweithio diwygiedig ac fe bleidleisiodd Pwyllgor Cyflogaeth Senedd Ewrop heddiw o blaid diddymu’n raddol, hawl y DU i eithrio allan o’r gyfraith gwrth-ecsploeteiddio. Fe argymhellwyd y dylid rhoi 36 mis i’r DU gydymffurfio â’r gyfraith a ddiweddarwyd.
Bydd y set o reolau diwygiedig yn caniatáu cyfres o eithriadau na fydd yn niweidio’r gallu i gystadlu’n economaidd ond a fydd yn gwahardd yr arfer o orfodi pobl i weithio oriau peryglus o hir.
Disgwylir i’r Gyfarwyddeb Amser Gweithio ddod o flaen Senedd Ewrop ym mis Rhagfyr, ac fe fydd ar agenda Cyfarfod Brig arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ym mis Rhagfyr. Mae Ms Evans wedi pleidleisio’n gyson o blaid deddfwriaeth decach ynglyn ag amser gweithio yn Senedd Ewrop.
Wrth siarad ar ôl y bleidlais ym Mrwsel, dywedodd Jill Evans, sydd yn cynrychioli Cymru gyfan yn Senedd Ewrop:
"Mae angen cyfreithiau cyflogaeth arnom ni sydd yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng amddiffyn gweithwyr rhag cael eu hecsploetio, heb niweidio ein gallu i gystadlu’n economaidd chwaith, yn enwedig yn ystod yr adegau anodd yma.
"Er nad yw’r gyfarwyddeb hon yn berffaith, mae hi’n mynd yn bell i ymdrin â phryderon cyflogwyr, wrth gadw’r egwyddor sylfaenol na ddylid gorfodi pobl i weithio oriau peryglus o hir. Mae’r canlyniad yma’n newyddion da i weithwyr yng Nghymru ac ymhobman arall.
"Mae llywodraeth Lafur Llundain wedi brwydro o hyd i gadw hawl y DU i eithrio allan, sef hawl a ddiogelwyd gan y llywodraeth Dorïaidd flaenorol yn y nawdegau cynnar. Roedd hi’n destun cywilydd parhaol ymhlith aelodau seneddol Ewropeaidd Llafur, bod eu llywodraeth eu hunain yn gwrthwynebu’r hyn oedd yn ei hanfod, yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch.
"Fel mae hi ar hyn o bryd; bydd y gyfarwyddeb ddiwygiedig yn caniatau hyblygrwydd sylweddol er mwyn gweithredu’r gofynion, er enghraifft, ar gyfer gweithwyr mewn diwydiannau tymhorol neu weithwyr ar-alw.
"Roedd cefnogaeth y Blaid Lafur i’r hawl i eithrio allan yn gymaint o gamsyniad â’i chefnogaeth i reoleiddio ariannol ysgafn. Does ond i chi gymryd golwg ar le mae hynny wedi ein cymryd ni. Yn ystod yr adegau ansicr yma, mae angen yr un amddiffyniad ar ein gweithwyr ni â gweithwyr mewn rhannau eraill o Ewrop, ac mae angen i’n cyflogwyr wybod bod yr hyblygrwydd yno os oes ei angen arnynt."
Diwedd.