• Hafan
  • Amdanai
  • Y wasg
  • Areithiau
  • Lluniau
  • Ffilmiau
  • Dolenni i wefannau eraill
  • Lledu Heddwch
    Chwefror 10fed 2010

    Bydd y cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a Fflandrys yn cael eu hadnewyddu eto'r wythnos nesaf gydag ymweliad Sefydliad Heddwch Fflandrys i Gymru. Bydd Llywydd y sefydliad Nelly Maes, a’i gyfarwyddwr, Tomas Baum, yn dod i roi tystiolaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Chwefror 23 i gefnogi deiseb â 1,500 o enwau sydd yn galw am Sefydliad Heddwch Cymreig. Byddant yn teithio o Gaerdydd i Gaerfyrddin, Aberystwyth a Bangor i sgwrsio ynglyn â’u gwaith.

    Mae nifer o sefydliadau ac unigolion, gan gynnwys CND Cymru, wedi dod ynghyd yn drawstoriad eang o gymdeithas Gymreig i ofyn i’r Cynulliad edrych ar y potensial am gorff tebyg yng Nghymru. Gallai Sefydliad Heddwch Cymreig gynghori a rhoi gwybodaeth i’r Cynulliad ynglyn â pholisïau mewn perthynas â heddwch, gyda’i gwaith yn seiliedig ar ymchwil academaidd annibynnol ac wedi ei oruchwylio gan banel gwyddonol.

    Cafodd Sefydliad Heddwch Fflandrys ei sefydlu yn 2004. Edrycha’r corff ar oblygiadau polisïau a gweithredoedd y Senedd ar heddwch a chyfiawnder - mewn cymdeithas yn ogystal ag ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

    Dywedodd Cadeirydd CND Cymru, Jill Evans ASE:

    "Cysylltwyd Cymru a Fflandrys yn y gorffennol drwy drasiedi rhyfel a thrwy ein hawydd am heddwch. Dyma’r cyswllt rydym yn adeiladu arni heddiw. Rwy’n hyderus y cawn gefnogaeth gan yr holl bleidiau a sectorau cymdeithas. Yn yr un modd mae ymrwymiad tuag at ddatblygu cynaliadwy wedi llywio gwaith y Cynulliad, byddai Sefydliad Heddwch yn gwneud Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol o’r gwir effaith byddai eu penderfyniadau a pholisïau yn cael ar Gymru a’r byd. Bu Fflandrys yn ysbrydoliaeth i ni, ond dim ond un sefydliad allan o nifer o sefydliadau o’r math hynny ydyw ar draws y byd. Gwn fod gan Sefydliad Heddwch Cymreig le teilwng i’w gymryd yn eu plith.

    "Lladdwyd miloedd o ddynion ifanc o Gymru yn Fflandrys yn ystod y Rhyfel Mawr, gan gynnwys y bardd a enillodd Gadair yr Eisteddfod, Hedd Wyn, o Drawsfynydd. Gwnaed y Gadair a enillodd ar ôl iddo farw, yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 gan saer o Fflandrys, Eugeen Vanfleteren. Caiff Hedd Wyn ei goffau nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn Fflandrys lle codwyd plac o lechi iddo gydag ysgrif yn y Gymraeg, Fflemeg a Saesneg, yn agos i’r man lle cafodd ei glwyfo’n angheuol.

    Diwedd.

    Ffoto: Jill Evans